Adam yn yr Ardd: 'Pawb yn gallu gwneud eu rhan' i hybu natur a bioamrywiaeth

Adam yn yr Ardd

Wrth i ymgyrch gychwyn i hybu natur a bywyd gwyllt, mae'r cyflwynydd teledu Adam yn yr Ardd yn dweud bod "pawb" yng Nghymru yn "gallu gwneud eu rhan".

Ym mis Mai mae ymgyrch Porfa i'r Peillwyr, neu No Mow May, yn annog pobl i beidio â thorri'r gwair yn eu gerddi am fis cyfan, sy'n cefnogi bioamrywiaeth.

Mae ymgyrch eleni, sydd yn cael ei harwain gan elusen Plantlife, yn "hollbwysig" yng Nghymru wrth i ffigurau ddangos bod y cwymp mewn bioamrywiaeth ledled y wlad yn cyflymu.

Yn y 20 mlynedd diwethaf mae rhywogaethau pryfed yng Nghymru wedi gostwng 20%, gyda dros hanner wedi diflannu ers y 1970au.

Mae hanner y 27 rhywogaeth o gacwn yn y Deyrnas Unedig yn prinhau, ac o’r 43 rhywogaeth o löyn byw sydd yng Nghymru, mae 17 yn prinhau a 10 yn prinhau’n ddifrifol, meddai Cyfoeth Naturiol Cymru.

Dywedodd Adam Jones, neu Adam yn yr Ardd, wrth Newyddion S4C fod angen i "fwy o bobl" fod yn ymwybodol o'r ymgyrch er mwyn hybu natur a bioamrywiaeth yng Nghymru.

“Heb os nac oni bai ma’ angen i fwy o bobl fod yn ymwybodol o hyn," meddai.

“Hyd yn oed os oes dim ond ’da chi batshyn o wair ’dach chi.

“Newch chi sylweddoli ar ymyl yr heolydd a llefydd felly bod yr awdurdodau lleol yn torri’r porfa llai aml hefyd, ond mae e’n fwriadol er mwyn cynyddu bioamrywiaeth.

“Hyd yn oed os nad oes wir ddiddordeb neu wybodaeth gyda chi mewn garddio, gewch chi ddefnyddio fe fel esgus perffaith i beidio â chodi blaen gewyn yn yr ardd ond hefyd helpu natur."

Image
Gardd
Mae gerddi "taclus yn hen ffasiwn" meddai Adam yn yr Ardd (Llun: PA)

Mae elusen Plantlife yn dweud bod yr ymgyrch yn tyfu, gyda 32% o'r rhai a gymerodd ran y llynedd wedi gwneud hynny am y tro cyntaf.

Roedd ymchwiliad a gafodd ei gynnal ym mis Mawrth wedi canfod fod 66% o bobl yn credu bod eu gerddi yn gallu gwneud gwahaniaeth i natur.

Awgrymodd yr ymchwil fod gadael i erddi dyfu yn ddewis cymdeithasol, gyda chwech allan o bob 10 person rhwng 25 a 34 oed yn dweud y byddan nhw'n ymuno â'r ymgyrch pe bai eu cymdogion yn gwneud hynny.

Yn ôl y Gymdeithas Frenhinol Garddwriaeth, mae dros 25 miliwn o erddi ledled y DU.

Mae Adam yn yr Ardd yn annog pobl i wneud ymdrech drwy gydol y flwyddyn i helpu natur, yn hytrach na ddim ond am fis yn unig.

“Ma’ ‘na bethau syml i’w gwneud, un yw gosod powlen gyda cherrig a dŵr ynddo fe, mae gwneud rhywbeth fel hyn yn galluogi pryfed i yfed y dŵr," meddai.

“Pethau bach syml sydd ddim yn gostus a gallwn ni gyd eu gwneud nhw.

“Mae’ na ffyrdd hefyd o gadw’r ardd yn dwt a thaclus a dal helpu bywyd gwyllt.

“Gallwn blannu planhigion o bob lliw a llun i roi bwyd i’r pryfed ar adeg tyngedfennol y flwyddyn ym mis Medi a Hydref, a bydd yr ardd dal yn edrych yn hyfryd.

"Dyw e ddim yn cymryd llawer o ymdrech a bydd natur a'n pryfed yn elwa'n fawr."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.