Arweinydd Cyngor Sir Penfro i gamu o'r neilltu
Mae arweinydd Cyngor Sir Penfro, Jon Harvey, wedi cadarnhau y bydd yn ildio'r awenau ac na fydd yn cynnig ei enw fel arweinydd ym mis Mai.
Mae arweinydd y cyngor yn cael ei ethol bob dwy flynedd o dan gyfansoddiad y cyngor. Mae’r arweinydd presennol, y Cynghorydd Jon Harvey, wedi penderfynu peidio â sefyll i gael ei ailethol.
Mae'r Cynghorydd Harvey wedi arwain y cyngor ers i'w ragflaenydd, y Cynghorydd David Simpson, gamu i lawr ym mis Mai 2024 ar ôl saith mlynedd yn y swydd.
Enillodd o drwch blewyn yn erbyn arweinydd grŵp y Ceidwadwyr, y Cynghorydd Di Clements, o 30 pleidlais i 27.
Mae wedi arwain cabinet sydd yn cynnwys cynghorwyr Llafur, Democratiaid Rhyddrydol, Plaid a chynghorwyr heb ymrwymiad i unrhyw grŵp.
Fe fydd cynghorwyr yn cwrdd ar Fai 15fed i ethol arweinydd newydd.
Mae’r enwebiadau canlynol ar gyfer arweinydd wedi’u derbyn:
- Y Cynghorydd Di Clements, arweinydd grŵp y Ceidwadwyr
- Y Cynghorydd Tessa Hodgson, yr Aelod Cabinet presennol dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion
- Y Cynghorydd Anji Tinley, arweinydd Grŵp yr Annibynwyr
Mae cyn-arweinydd Grŵp yr Annibynwyr ar Gyngor Sir Benfro, y Cynghorydd Huw Murphy, wedi honni mewn datganiad fod y Cynghorydd Harvey wedi cael ei ddal mewn “coup”.
Dywedodd fod y penderfyniad “yn cadarnhau’r hyn mae llawer o gynghorwyr eisoes yn ei wybod, sef bod y Cabinet wedi’i rannu ac nad oes ganddo hyder mwyafrif yr aelodau etholedig mwyach”.
“Mae hyn yn ymddangos yn weithred o gryn anffyddlondeb tuag at yr arweinydd sydd bellach yn gadael.”
Mae’r Cynghorydd Harvey wedi gwadu bod unrhyw “gynllwyn” wedi digwydd. Mae wedi addo ymateb yn llawn i honiadau’r Cynghorydd Murphy.
Dywedodd yn ddiweddarach: “A dweud y gwir, roedd yn rhaid i mi chwerthin wrth weld y datganiad gan y Cynghorydd Murphy.
“Rydw i wedi mwynhau fy nghyfnod fel arweinydd yn fawr iawn ac rwy’n falch o fy record, ond rydw i wedi cwblhau tymor llawn fel arweinydd.
“Fy mhenderfyniad i, a fy mhenderfyniad i yn unig, oedd rhoi’r gorau i’r swydd a pheidio â cheisio cael fy ailethol.”