Dirprwy arweinydd Reform yng Nghymru yn gwneud tro pedol ar ymddiheuriad aelod

Helen Jenner

Mae dirprwy arweinydd Reform yng Nghymru wedi gwneud tro pedol a dweud y dylai aelod amlwg o'i phlaid ymddiheuro am ei sylwadau ar-lein.

Roedd Helen Jenner wedi gwrthod dweud y dylai Arron Banks ymddiheuro cyn cael gwybod bod arweinydd ei phlaid yn y DU, Nigel Farage, wedi galw arno i wneud hynny.

Wrth gael ei holi sawl gwaith gan ohebydd gwleidyddol digidol Newyddion S4C, Jacob Morris, dywedodd Helen Jenner: “Dydi o ddim yn ymgeisydd iddyn ni. Mae o wedi cael dipyn i neud hefo ni yn y gorffennol,

"Swn i ddim wedi dweud ffasiwn beth a hynna. Dwi'n credu bod o ddim yn rhywbeth y dylid o fod wedi ei wneud.

"Does gyda fi ddim rheolaeth dros beth mae rhywun fel Arron Banks yn ei ddweud.”

Wrth gael ei holi a oedd ei sylw yn 'jôc', dywedodd: “Ella. Dwi ddim yn nabod y boi a be' oedd o'n meddwl yn dweud ffasiwn beth."

Ond pan gafodd wybod bod Nigel Farage wedi dweud fore Mercher y dylai Arron Banks ymddiheuro, fe ddywedodd ei bod yn cytuno y dylai wneud hynny.

"Efallai, os mae pobl yn rhoi pethau allan sy'n mynd i gael ei gymryd yn y ffordd mae wedi cael ei gymryd yn y ffordd yna, ymddiheuro a clarifyio beth maen nhw'n ei feddwl,” meddai.

"Ond eto fel oni'n dweud maen 'na lot o bethau pwysicach yn mynd ymlaen."

Mae Helen Jenner yn ymgeisydd yn etholaeth Bangor Conwy Môn.

Y cefndir

Roedd Arron Banks wedi dyfynnu postiad gan Blaid Cymru a oedd yn cynnwys delwedd o ymgyrchydd du, gan ychwanegu’r sylw “hogyn Cymreig?”

Dywedodd Banks, nad yw’n sefyll yn etholiad y Senedd, mai “jôc” oedd ei sylw a bod Plaid Cymru wedi “colli ei synnwyr digrifwch”.

Roedd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, wedi dweud bod y sylw yn awgrymu nad oedd Banks yn meddwl bod pobl ddu yn gallu bod yn Gymry.

Dywedodd arweinydd Reform yn y DU, Farage, wrth BBC Cymru ddydd Mercher fod y sylwadau yn “ddi-chwaeth”.

Wrth ateb cwestiwn ynghylch a ddylai Banks ymddiheuro, dywedodd: “Dylai, ond fydd o ddim - Arron Banks ydi o.”

Ychwanegodd nad oedd Arron Banks yn ymgeisydd yn yr etholiad ond bod “pobl yn gwneud camgymeriadau wrth drydar ar ôl gwydraid o win”.

Roedd Arron Banks yn ymgeisydd i’r blaid yn etholiad Maer Gorllewin Lloegr y llynedd.

Ymateb

Mae Newyddion S4C wedi holi y prif bleidiau am ymateb.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: “Yn ganolog i hyn mae aelod du ifanc o Blaid Cymru y mae ei Gymreictod wedi cael ei gwestiynu gan Reform oherwydd lliw ei groen. Mae ei ddiystyru fel ‘jôc’ yn sarhad.

“Mae ymateb diystyriol Nigel Farage, a phenderfyniad Dan Thomas i wrthod condemnio Arron Banks, yn dweud cyfrolau. Pan roddais gyfle i Mr Thomas gondemnio’r sylwadau hynny, dewisodd chwarae’r dioddefwr yn lle hynny. 

"Mae Cymru’n haeddu gwell.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Nid yw pethau fel hyn sy'n mynd a sylw pobl yn gwneud dim i helpu pobl yng Nghymru. Ar ôl 27 mlynedd o Lafur a Phlaid Cymru, mae pleidleiswyr eisiau newid.

"Tra bod pleidiau eraill yn ffraeo ymysg ei gilydd, mae Ceidwadwyr Cymru yn canolbwyntio ar gyflawni ein cynllun cadarnhaol ar gyfer Cymru, gwella gwasanaethau cyhoeddus, cefnogi rhieni sy'n gweithio gyda chynnig gofal plant hael, rhoi hwb i'n heconomi, a gwneud i Gymru weithio."

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur ei fod yn "fflip fflop" arall ac "na all Cymru ganiatau'r rhaniadau cymunedol y mae Reform yn eu cynnig".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.