Teyrnged teulu i fab 'a oedd yn rhoi gwên ar wyneb pawb' a fu farw mewn gwrthdrawiad
Mae teulu dyn 21 oed "a oedd yn rhoi gwên ar wyneb pawb" a fu farw mewn gwrthdrawiad wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Brandon Tatchell mewn gwrthdrawiad ar Ffordd Llynfi ym Maesteg ychydig wedi hanner nos ar 25 Ebrill.
Dywedodd ei deulu ei fod yn "ffrind i lawer" a bydd colled enfawr ar ei ôl.
"Roedd Brandon yn fab, wyr, brawd, nai, cefnder a ffrind annwyl," meddai ei deulu.
"Bydd ei natur hwyliog yn cael ei golli gan bawb. Roedd pawb oedd yn ei adnabod yn gwybod bod Brandon yn gwneud ei orau i roi cymorth i unrhyw un oedd ei angen, ac yn helpu ym mhob ffordd bosibl.
"Roedd yn ddyn ifanc gweithgar oedd yn caru ei waith, ac roedd pawb yn falch o'r hyn yr oedd wedi ei gyflawni yn ei swydd.
"Roedd gan Brandon sawl ffrind a theulu a fyddai'n dweud ei fod yn berson oedd yn rhoi gwên ar wyneb pawb."
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod nhw'n parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad.
