Beddrod ar gyrion Bangor ar restr adeiladau mewn perygl

Beddrod y Faenol

Mae beddrod ar gyrion Bangor yng Ngwynedd ar restr 'Y 10 Adeilad Mwyaf Mewn Perygl' y Gymdeithas Fictoraidd.

Beddrod y Faenol yw'r unig adeilad o Gymru ar y rhestr sy'n cynnwys 10 adeilad mewn perygl yng Nghymru a Lloegr yn flynyddol.

Yn ôl y Gymdeithas Fictoraidd, mae'r beddrod yn adeilad angladdol arwyddocaol yn bensaernïol sydd wedi'i leoli mewn coetir oddi ar Lwybr Arfordir Cymru.

Er ei fod yn cael ei ystyried yn adeilad prin a phwysig o'i fath yng Nghymru, mae'r beddrod bellach yn pydru ac mewn perygl o ddirywiad pellach.

Mae'r Gymdeithas Fictoriaidd yn galw am gamau gweithredu i fynd i'r afael â'i gyflwr er mwyn ei warchod ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Griff Rhys Jones, llywydd y Gymdeithas Fictoriaidd, bod yn rhaid adfywio'r "gofeb unigryw".

"Am ddarganfyddiad rhyfeddol ac un y byddai unrhyw un sy’n cerdded llwybr arfordirol mawr Cymru gerllaw wrth eu bodd yn dod o hyd iddo a’i archwilio a chael seibiant am ychydig," meddai mewn datganiad.

"Mae angen i ‘farchog gwyn’ dorri ar draws y dryswch o berchnogaeth, er mwyn i'r harddwch hir ei chwsg, y gofeb unigryw hon, ddod yn ôl yn fyw."

Hanes y beddrod

Cafodd y beddrod ei adeiladu ar ddiwedd y 19eg ganrif ar gyfer teulu Assheton-Smith, perchnogion Ystâd y Faenol. 

Roedd cyfoeth y teulu wedi'i gysylltu'n agos â chwarel lechi Dinorwig a oedd yn cynhyrchu'r rhan fwyaf o lechi Prydain erbyn 1882.

Wedi'i ddylunio gan y pensaer Henry Kennedy, mae'r beddrod yn adlewyrchu ei waith eglwysig helaeth ar draws gogledd-orllewin Cymru.

Mae'r adeilad yn cynnwys elfennau Gothig Ffrengig, gan gynnwys tŵr gyda chloch a thô trawst morthwyl (hammerbeam).

Image
Beddrod y Faenol
Mae'r adeilad wedi dioddef fandaliaeth, gyda graffiti a difrod i'w ffenestri lliw

Cafodd aelodau o deulu Assheton-Smith eu claddu yn y beddrod, gan gynnwys y Capten Robert George Duff yn 1890. 

Claddwyd George William Duff Assheton-Smith, a wnaeth etifeddu'r ystâd yn fachgen, yno yn 1904 yn dilyn gorymdaith angladd fawr. Yn ddiweddarach, yn 1940, cafodd ei weddw, Laura, ei chladdu yno, ac yna eu merch Enid yn 1959. 

Er gwaethaf yr hanes, mae'r beddrod bellach yn sefyll ar ei ben ei hun. 

Mae ystâd ehangach y Faenol wedi'i rhannu a'i hailbwrpasu, gyda rhannau ohoni wedi cynnal digwyddiadau diwylliannol mawr, gan gynnwys Gŵyl y Faenol Bryn Terfel, yr Eisteddfod Genedlaethol, a ‘phenwythnos mawr’ Radio 1. 

Image
Gwydr lliw Beddrod y Faenol
 Y gred yw mai James Powell a'i feibion ​​oedd yn gyfrifol am greu'r gwydr lliw

Yn ôl y Gymdeithas Fictoraidd, mae gan y beddrod "botensial clir i gael ei werthfawrogi unwaith eto" fel rhan o'r amgylchedd hanesyddol. 

Dywedodd James Hughes, cyfarwyddwr y Gymdeithas Fictoriaidd: "Mae hwn yn adeilad prin a chofiadwy sy’n rhan o wëad hanesyddol y dirwedd ehangach. 

"Mae ei gyflwr presennol yn ganlyniad uniongyrchol i berchnogaeth dameidiog a diffyg gofal cydlynol. 

"Gyda’r ymyrraeth gywir, gallai ddod yn ased treftadaeth gwerthfawr a hygyrch unwaith eto."

Lluniau: Dan Weatherley
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.