
Rhybudd y gallai ysbytai'r diciâu ail-ymddangos os nad yw’r haint yn cael ei drin yn gynnar

Mae rhybudd y gallai canolfannau sy’n trin cleifion â thwbercwlosis neu'r diciâu ddychwelyd os nad yw pobl yn gofyn am gyngor meddygol yn ddigon cynnar.
Yn ôl ITV Cymru, mae swyddogion iechyd wedi dweud bod perygl na fydd yr afiechyd yn cael ei drin yn gywir os bydd pobl yn oedi cyn derbyn cyngor meddygol buan oherwydd y pandemig.
Yn ôl Dr Gwen Lowe o Iechyd Cyhoeddus Cymru, os aiff achosion heb eu canfod, gallai’r haint wrthsefyll sawl cyffur gwahanol.
Dywedodd: “Nid yw TB wedi diflannu, mae’n parhau i fod yn beryglus o hyd.
“Mae yna driniaeth effeithiol ond os bydd goruchwyliaeth y driniaeth yn torri lawr, neu os ydym yn cael mwy o wrthwynebiad i’r cyffuriau byddwn yn gweld y sefyllfa’n dirywio – bydd rhagor o achosion TB ac wedyn byddwn ni mewn trafferth,” ychwanegodd Dr Lowe.
Beth yw'r diciâu?
Mae'r haint yn effeithio ar tua 100 o bobl bob blwyddyn yn y wlad, gydag un o bob 10 o'r rheiny'n marw o'r afiechyd. Mae fel arfer yn gysylltiedig â phroblemau iechyd eraill neu henaint.
Gall y diciâu ddigwydd unrhyw le yn y corff, ond mae ond yn heintus os yw’n bresennol yn yr ysgyfaint. Mae symptomau'r diciâu yn cynnwys twymyn, peswch parhaus, chwysu yn y nos a cholli pwysau.

Oherwydd y pandemig, mae meddygon yn disgwyl dod o hyd i achosion yn hwyrach. Mae hyn yn golygu y bydd cleifion wedi bod yn heintus am gyfnod hirach gan gynyddu’r risg o ledaenu'r haint cyn cael diagnosis.
Disgrifiodd Dr Gwen Lowe y sefyllfa iechyd cyhoeddus o amgylch y diciâu fel un “ansicr.”
Erbyn heddiw mae'r rhan fwyaf o bobl sydd wedi eu heintio yn cael eu trin yn y gymuned, ac mewn rhai achosion, ar wardiau ynysu mewn ysbytai.
Ond dywedodd Dr Lowe fod dychwelyd i’r cysyniad o ganolfannau ar gyfer trin yr haint fel yn y Rhyfel Byd Cyntaf yn "bosibilrwydd go iawn" oherwydd y risg y bydd straen o'r clefyd sy'n gwrthsefyll amryw o gyffuriau yn cynyddu.

Dywedodd: "Os ydyn ni'n ei chael hi'n anodd neu'n amhosibl trin twbercwlosis, neu os ydy’r achosion yn cynyddu i raddau fel ei fod yn llethu gwasanaethau cleifion allanol arferol, yna mae'n bosib y byddwn ni'n gweld iechydfeydd yn dychwelyd."
Mae iechydfeydd modern neu glinigau diciâu pwrpasol eisoes yn cael eu defnyddio yn yr Iseldiroedd ar gyfer cleifion ag achosion arbennig neu anodd eu trin. Mae cleifion yn aros yn yr ysbytai arbenigol hyn trwy gydol eu triniaeth.
Mae gwybodaeth am wasanaethau diciâu lleol yng Nghymru ar gael trwy ffonio 02920 335 121.