Dirwy i gapten llong aeth ar goll ar y môr pan yn feddw

Porthladd Caergybi

Mae llongwr oedd yn feddw wedi derbyn dirwy o £800 ar ôl mynd ar goll tra'n gapten llong fechan. 

Clywodd Llys Ynadon Caernarfon fod Alistair McCall, 61 oed o Lannau Merswy, wedi anfon neges radio at borthladd Caergybi ym Môn yn dweud: "Dwi ddim yn gwybod lle ydw i. Dwi jest angen cyfarwyddiadau."

Dywedodd Rachel Drew ar ran yr erlyniad fod llong y 'Vital' wedi llwyddo hwylio yn ôl i'r porthadd gyda chymorth criw a ni chafodd unrhyw niwed ei achosi. 

Ond fe gafodd yr heddlu eu galw am 17:00 ar 14 Hydref y llynedd ac arestio McCall.

Ychwanegodd Rachel Drew: "Cafodd ei ddarganfod o dan y dec yn cysgu yn un o'r cabanau, ac roedd yn arogli yn gryf o alcohol."

Fe wnaeth McCall gyfaddef ym morthladd Caergybi ei fod wedi yfed cymaint o alcohol fod y darlleniad o 348 yn ei wrin yn uwch na'r terfyn. 

Y terfyn ar gyfer gyrwyr yng Nghymru a Lloegr ydy 107. 

Derbyniodd ddirwy o £800 ac fe gafodd orchymyn i dalu £405 mewn costau.

Dywedodd cadeirydd y llys Alwyn Lloyd Ellis wrth McCall: "Roedd eich ymddygiad ar y diwrnod yma yn gwbl annerbyniol. Rydym yn derbyn hefyd eich bod chi'n dangos edifeirwch. 

"Yn ffodus, ni chafodd unrhyw niwed ei achosi, ond fe ddylech chi fod wedi gwybod yn well."

Dywedodd Terry Naylor ar ran yr amddiffyniad: "Mae'n siom fod y gŵr bonheddig yma sydd bellach yn ei 60au wedi colli ei gymeriad da. Mae'n gwybod nad oes esgus am ei weithredoedd, a oedd yn gamgymeriad difrifol."

Ers iddo gael ei arestio, nid yw McCall wedi bod yn gapten llong. 

"Mae ganddo gywilydd mawr am ei weithredoedd. Mae ganddo ddyletswydd i gyfeirio ei hun at y Gymdeithas Hwylio Frenhinol," ychwanegodd ei gyfreithiwr. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.