Pump o bobl yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad yng Nghaerffili

B4352 Gelligaer

Mae pump o bobl wedi eu cludo i'r ysbyty ar ôl gwrthdrawiad yng Nghaerffili.

Dywedodd yr heddlu fod tri o'r pump ag anafiadau difrifol wedi'r gwrthdrawiad ar ffordd y B4352 yng Ngelligaer am tua 18:25 ddydd Iau.

Fe gafodd swyddogion yr heddlu ynghyd â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Ambiwlans Awyr Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu hanfon i leoliad y gwrthdrawiad.

Roedd y gwrthdrawiad rhwng car BMW Sport Coupe coch a Jeep Avenger Summit llwydfrown.

Mae'r heddlu'n credu fod y BMW yn teithio tua’r gorllewin i gyfeiriad Nelson, a’r Jeep yn teithio i’r cyfeiriad arall.

Mae Heddlu Gwent yn apelio am dystion i'r gwrthdrawiad, a welodd y naill gar neu’r llall cyn y gwrthdrawiad, neu unrhyw un sydd â lluniau teledu cylch cyfyng, lluniau dashcam neu luniau cloch drws allai fod o gymorth.

Maen nhw'n gofyn i dystion gysylltu â'r heddlu trwy eu gwefan, ar y cyfryngau cymdeithasol neu drwy ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod 600125485.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.