'Bywydau mewn perygl' os bydd toriadau i Wasanaeth Ambiwlans Ceredigion

'Bywydau mewn perygl' os bydd toriadau i Wasanaeth Ambiwlans Ceredigion
Mae Aelod Senedd Cymru dros Geredigion, Elin Jones, wedi rhannu ei phryder am ddyfodol y gwasanaeth ambiwlans yn y sir.
Mae Elin Jones wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C ei bod hi ar ddeall fod cyfnod ymgynghori wedi dechrau i haneru’r gwasanaeth yn nhrefi Aberystwyth ac Aberteifi.
"Ma' dau ambiwlans yn gweithio yn ystod y dydd yn y ddwy dref yna a'r bwriad yw i leihau hynna i un criw ambiwlans i'r ddwy dref," meddai.
"Ma' haneru'r gwasanaeth sydd ar gael yn ardal Aberystwyth ac yn ardal Aberteifi yn codi pob math o amheuaeth ym meddyliau pobl y bydd pobl yn aros yn rhy hir am ambiwlans i fedru arbed eu bywyd nhw, felly dehongliad fanna wrth gwrs yw bod bywydau pobl mewn peryg yn y sir yma.
"'Yn ni'n gwybod wrth gwrs fod yna bobl sy'n gorfod aros yn hir iawn am ambwilansis y dyddiau yma ar hyd a lled y sir, ac mae unrhyw ostyngiad yn creu consyrn mawr."
Eglurodd Elin Jones ei bod hi wedi gofyn am gyfarfod brys gyda'r Gwasanaeth Ambiwlans i drafod y mater, ond ei bod hi'n dal i aros am eglurhad ganddynt.
"Ni angen gwybod nawr, ma'r staff sy'n gweithio i'r gwasanaeth ambiwlans angen gwybod yn ogystal â'r bobl ma' nhw'n ei gwasanaethu felly ni angen eglurhad clir oddi wrth y gwasanaeth ambiwlans," ychwanegodd.
"Gobeithio ei bod nhw yn ail feddwl ac yn cadarnhau i ni y bydd y gwasanaethau 'ma yn aros yn llawn yng Ngheredigion, ac yn wir eu bod nhw'n edrych i weld sut ma' nhw'n gallu cynyddu'r capasiti sydd gyda nhw ar gael i'r bobl yma'n lleol."
Mewn datganiad, fe wadodd Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Jason Killens bod yna fwriad i leihau gwasanaethau ambiwlans yng Ngheredigion a bod y gwasanaeth yn parhau i dyfu.
Ers adolygiad yn 2019, mae'r galw am ofal heb ei drefnu wedi cynyddu yn aruthrol ac mae'r gwasanaeth yn bwriadu diweddaru'r adolygiad i adlewyrchu'r newid hwnnw.
Fe fydd cyfarfod yn cael ei drefnu gyda Elin Jones yn ddiweddarach yn y mis i drafod ei phryderon yn ôl y gwasanaeth.
Deallir mai'r adolygiad hwn sydd yn destun pryder ac fe fydd yna bwysau ar y gwasanaeth ambiwlans i ailfeddwl am unrhyw doriadau posib.