Teulu yn codi dros £100,000 er cof am fam a gwraig a fu farw o ganser yr ymennydd
Teulu yn codi dros £100,000 er cof am fam a gwraig a fu farw o ganser yr ymennydd
Mae teulu wedi codi dros £100,000 er cof am fam a gwraig a fu farw o ganser yr ymennydd y llynedd.
Bydd Gwen ac Elin Davies a'u tad Gareth o Lanfair-ym-Muallt yn rhedeg Marathon Llundain ddydd Sul er cof am Michelle Davies a fu farw o glioblastoma ym mis Mawrth 2025.
Fe ddechreuodd Michelle brofi ffitiau yng ngwanwyn 2023 gan arwain at lawer o brofion yn yr ysbyty, cyn derbyn diagnosis o glioblastoma ym mis Chwefror 2024.
Derbyniodd Michelle brognosis o naw mis, a bu farw ym mis Mawrth y flwyddyn ganlynol.
Bydd Gwen, Elin a Gareth yn rhedeg Marathon Llundain ddydd Sul er mwyn codi arian at elusen The Brain Tumour Charity er cof am Michelle.
Fe gafodd ffrind teulu agos, Erin Lois, hefyd ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd a hynny wythnos wedi marwolaeth Michelle.
Dywedodd Gwen wrth Newyddion S4C: "O’dd Mam yn rhan annatod o ni fel teulu, a mae dal yn, a mae’r gwacter ma’ hi ‘di gadael tu ôl yn enfawr.
"‘S’dim byd yn paratoi chi i golli Mam na rhiant na rhywun agos yn y teulu, y tristwch, y galar, ma’r sioc yn enfawr a ni jyst yn gobeithio bod y £100,000 yna wir yn mynd i neud gwahaniaeth yn y dyfodol ar gyfer teuluoedd fel ni sydd yn mynd trwy stwff fel hyn."
Ychwanegodd ei chwaer, Elin: "O'dd Mam y teip o berson oedd pawb yn c'nesu at, o'dd hi'n athrawes ac yn ddirprwy bennaeth mewn ysgol gynradd 'nôl adref yn Builth. Oherwydd hwnna, oedd pawb yn caru hi ac yn parchu hi fel person, o'dd hi'n rhywun o'dd yn rhoi lot yn ôl i'r gymuned.
"Ni ‘di cael gymaint o gefnogaeth gan teulu, ffrindie, pobl agos, pobl ‘dyn ni ddim rili yn ’nabod yn dda iawn ond pobl o’dd yn ‘nabod Mam yn dda iawn a ma’ hwnna jyst yn adlewyrchiad o be o’dd Mam fel person.
"Mae'r ffaith bod y tri o ni’n neud e gyda’n gilydd, so fi, Gwen a Dad, bydd hi yn rili falch o hwnna, a ma’ Dad wastad yn gweud bydd Mam yn edrych lawr arna ni pan ‘dyn ni’n rhedeg."
Fe ddechreuodd Michelle dreialon clinigol yng Nghaerdydd er mwyn helpu eraill oedd yn byw â'r canser, ac mae'r teulu yn dweud fod y rhain yn allweddol er mwyn sicrhau fod rhagor o driniaethau ar gael.
"O’dd Mam ‘di 'dechre neud clinical trial yma yng Nghaerdydd a o’dd hwnna yn edrych ar driniaethau gwahanol ar gyfer canser yr ymennydd," meddai Elin.
"Ma’ hwn yn rhoi arian i sicrhau gallwn ni neud mwy o clinical trials yn y dyfodol achos hwn fydd yn datblygu mwy o driniaethau ar gyfer canser fel hyn."
Yn ôl Brain Tumour Research, dim ond 1% o wariant ar ymchwil canser sydd yn cael ei wario ar ganser yr ymennydd ers 2002, gyda 17.2% o gleifion sydd yn derbyn diagnosis yn goroesi’n hirach na phum mlynedd – o gymharu â 61.5% ar draws pob math o ganser arall.
Mae Gwen ac Elin yn dweud bod angen fwy o ymchwil i'r canser gan ei fod yn cael ei dan-ariannu ar hyn o bryd.
"Does dim llawer o ymchwil mewn i diwmorau yr ymennydd, ma’r cyllid yn eitha isel hefyd felly ma‘r gwaith ma’ The Brain Tumour Charity yn neud i gynyddu’r ymchwil sydd ar gael, neu i gefnogi teuluoedd fel teulu ni sydd yn cael eu heffeithio gan y cyflwr afiach yma, ma’r gwaith ma’ nhw’n neud yn hollbwysig," meddai Gwen.
"Yn amlwg oedden ni ddim yn ddigon lwcus gyda Mam, ond ‘dyn ni mo’yn helpu teuluoedd yn y dyfodol."
Ers cyhoeddi eu bod nhw'n rhedeg Marathon Llundain, mae'r teulu wedi cynnal amryw o ddigwyddiadau i godi arian.
"Ar ôl i ni ffeindio mas bod y tri ohona ni wedi cael lle yn y marathon, o'n ni mo'yn codi swm sylweddol, o'n i wedi trio codi tua £15,000 ond gyda cefnogaeth ffrindiau, teulu a'r gymuned, ni 'di neud llawer o ddigwyddiadau codi arian, cinio mawreddog ym mis Ionawr, bingos, pethe gyda'r ffermwyr ifanc, ma'r cefnogaeth wedi ffrwydro a ni 'di codi dros £100,000... 's'dim geirie," meddai Gwen.
"Ers i Mam gael diagnosis, ma'r ymwybyddiaeth wedi cynyddu yn fawr iawn yn y gymuned felly dyna beth sydd angen ei wneud er mwyn sicrhau bod mwy o bobl yn clywed am yr angen am fwy o gyllid a chefnogaeth."
Dywedodd Clare Horwood, Cyfarwyddwr Codi Arian elusen The Brain Tumour wrth Newyddion S4C: "Mae'r pres y mae Gwen, Elin, Gareth, y teulu a'r gymuned wedi ei godi mor anhygoel ac yn destament iddyn nhw a'n destament i Michelle.
"Mae'r arian yna yn mynd i allu helpu gydag ariannu'r ymchwil meddygol a'r gefnogaeth i bobl hefyd."
Ychwanegodd: "Er ei fod yn cael ei weld fel un weddol brin, mae cymaint o bobl yn gwybod am rywun sydd yn byw â thiwmor ar yr ymennydd. Yn hanesyddol, mae yna ddiffyg cyllid wedi bod o ran ymchwil i diwmorau ar yr ymennydd, a dyna beth ydyn ni'n ceisio gwneud yw newid hyn.
"Mae'n deimlad arbennig i feddwl am y tri ohonyn nhw yn rhedeg y marathon gyda'i gilydd, a 'dan ni mewn dyled iddyn nhw, ac fe fyddwn ni yn eu cefnogi nhw bob cam ddydd Sul."
