Wrecsam yn codi i'r safleoedd gemau ail-gyfle wedi buddugoliaeth bwysig
Gyda dwy gêm yn weddill yn y Bencampwriaeth mae Wrecsam wedi codi i safleoedd y gemau ail-gyfle.
Enillodd y Dreigiau yn erbyn Oxford oddi cartref nos Fawrth ac maent wedi codi i'r chweched safle wedi i Hull fethu â churo Leicester.
Er bod nhw yn y chweched safle maen nhw ar yr un nifer o bwyntiau â Hull gyda gwahaniaeth goliau yn unig yn gwahanu'r ddau dîm.
Wrecsam sydd mewn rheolaeth yn y bôn - ond dyw pethau ddim mor syml â hynny.
Fe allai'r clwb yng ngogledd Cymru ennill eu dwy gêm olaf. Er hynny os ydy Hull hefyd yn ennill eu gemau ac yn sgorio mwy o goliau neu'n ildio llai na Wrecsam, nhw fydd yn sicrhau'r chweched safle a'r lle olaf yn y gemau ail-gyfle.
Dydd Sadwrn diwethaf roedd Wrecsam bedwar pwynt tu ôl i Hull wedi dwy golled yn olynol. Ond fe ddywedodd rheolwr y clwb, Phil Parkinson bod y chwaraewyr wedi "codi lefelau" eu perfformiadau ers hynny.
"Wnaethon ni byth roi'r gorau i gredu, ond yr hyn sydd wedi bod yn allweddol i ni yn y ddwy gêm ddiwethaf yw ein bod ni wedi ymlacio ychydig," meddai.
"Roeddwn i'n teimlo yn erbyn Birmingham ein bod ni bron yn ceisio gwneud gormod i ennill y gêm.
"Felly fe wnaethon ni geisio cymryd cam yn ôl a chael wythnos i adlewyrchu ar yr hyn sydd angen arnom ni a chodi ein lefelau perfformiad yn ôl i ble mae angen iddyn nhw fod."
Bydd Wrecsam yn wynebu pencampwyr y gynghrair, Coventry ddydd Sadwrn. Byddan nhw wedyn yn herio Middlesborough, sydd un safle a thri phwynt yn uwch na Wrecsam, i orffen y tymor.
Mae gan Hull gemau ychydig yn haws i orffen eu tymor wrth iddyn nhw wynebu Charlton, sydd yn yr 20fed safle, a Norwich sydd yn y nawfed safle.