Super Furry Animals i berfformio ar Faes yr Eisteddfod eleni
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cadarnhau y bydd Super Furry Animals yn perfformio ar y maes am y tro cyntaf ers 30 mlynedd, eleni.
Daw'r band a’u steil unigryw a lliwgar i Lwyfan y Maes ar nos Sadwrn cyntaf yr wŷl - gyda mynediad wedi’i gynnwys ym mhris tocyn dydd arferol. Dyma gyfle prin i weld y band yn perfformio yn fyw, a hynny yn awyrgylch arbennig Maes yr Eisteddfod, gyda Mellt, Pys Melyn ac Ynys yn cefnogi.
Dyma fydd yr unig gig uniaith Gymraeg fydd y band yn ei berfformio, ac maen nhw’n gobeithio chwarae rhai caneuon sydd heb eu perfformio’n fyw erioed o’r blaen fel rhan o set arbennig.
Yn ôl Cian Ciarán o’r band: “’Da ni'n edrych ymlaen at chwarae set unigryw, rywbeth na clywsoch erioed o’r blaen ac ella na ‘newch chi byth eto"
Yn dod i amlygrwydd am y tro cyntaf yn 1995 gan arwyddo gyda Creation Records, mae’r band wedi bachu’r penawdau dros y blynyddoedd am eu tactegau hyrwyddo unigryw. Yn eu mysg, y tanc eiconig a ymddangosodd ar Faes Eisteddfod Llandeilo, 1996.
Mae’r digwyddiad yn addo denu cynulleidfa fawr i’r Maes ac mae’r trefnwyr yn annog pobl i brynu eu tocyn ymlaen llaw.
Mae'r band eisoes wedi cadarnhau y byddant yn perfformio yn yr Eisteddfod Ryngwladol yn Llangollen eleni.