Arestio menyw wedi marwolaeth merch awtistig mewn pwll ar gwrs golff
Mae menyw wedi cael ei harestio yn dilyn marwolaeth merch awtistig saith oed a gafodd ei darganfod yn farw mewn pwll ar gwrs golff.
Cafwyd hyd i Nyla May Bradshaw ar Gwrs Golff Owston, i'r gogledd o Doncaster, yn Ne Sir Efrog, ar 30 Mawrth.
Dywedodd Heddlu De Sir Efrog ddydd Gwener fod menyw yn ei 30au wedi cael ei harestio ar amheuaeth o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol, ac esgeuluso plentyn.
Mae hi wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal, meddai'r heddlu.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Gary Magnay fod yr heddlu wedi "ymestyn (eu) hymchwiliad i'r digwyddiadau a arweiniodd at y digwyddiad".
Nid oedd y farwolaeth wedi cael ei thrin fel un amheus i ddechrau.
Cwest
Clywodd cwest a agorodd yn gynharach y mis hwn fod Nyla yn "ferch saith oed nad oedd yn siarad ac a oedd wedi cael diagnosis o awtistiaeth".
Dywedodd Jane McDonnell o Swyddfa'r Crwner fod Nyla yn derbyn gofal gan warchodwr plant ac "yn ystod y dydd cafodd ei chymryd allan i barc yn ardal Owston yn Doncaster".
"Yn ystod y daith, aeth trwy fwlch yn y ffens a nesáu at goetir ger Cwrs Golff Owston," meddai.
Ychwanegodd Ms McDonnell fod ymgyrch chwilio wedi dechrau ar ôl i’r gwarchodwr plant alw’r heddlu a theulu Nyla.
Cafwyd hyd i’r ferch yn ddiymadferth ac yn gorwedd ar ei hwyneb mewn pwll ar y cwrs golff, meddai’r swyddog wrth uwch grwner Doncaster, Nicola Mundy.
Cafodd Nyla ei chludo i’r ysbyty, ond nid oedd modd ei hadfywio.
