Mark Williams am 'redeg lawr yr M4 yn noeth' os yw'n ennill Pencampwriaeth Snwcer y Byd

Mark Williams yn rownd cyn-derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd

Mae'r Cymro Mark Williams yn dweud y byddai'n "rhedeg i lawr yr M4 o Lundain i Gaerdydd yn noethlymun" pe bai'n ennill Pencampwriaeth Snwcer y Byd.

Pan enillodd y bencampwriaeth yn y Crucible diwethaf yn 2018, fe wireddodd ei addewid i gyrraedd cynhadledd y wasg yn noeth.

Enillodd o 18-16 yn erbyn John Higgins yn y rownd derfynol bryd hynny, gan ychwanegu at y ddau deitl a enillodd yn 2000 a 2003.

Wrth i'r gystadleuaeth gychwyn yn Sheffield, mae'r dyn 51 oed o Glyn Ebwy yn anelu at greu hanes.

"Byddwn i'n gwneud unrhyw beth i ennill y teitl eto, ond wrth i'r blynyddoedd fynd heibio mae hynny'n llai tebygol," meddai wrth BBC Sport Wales.

Williams oedd y chwaraewr hynaf i chwarae yn rownd derfynol Pencampwriaeth y Byd llynedd, ond fe gollodd o 18-12 yn erbyn Zha Xintong o Tsieina.

Mae'r Cymro yn safle rhif chwech ar restr detholion y byd, ac yn dweud ei fod yn "dal i frwydro" er gwaethaf problemau gyda'i iechyd.

"Dwi ddim yn ymddeol, roeddwn i wedi neud y penderfyniad hwnnw blynyddoedd yn ôl," meddai.

"Dwi dal i frwydro, dwi dal yn rhoi fy ngorau ym mhob cystadleuaeth. Os ti'n ennill, grêt, ond os na, dyw e ddim yn ddiwedd y byd."

Mae Williams yn aros am lawdriniaeth ar ei lygaid ac mae wedi dweud yn y gorffennol ei fod yn dioddef problemau gyda'i glun.

Fe fydd yn wynebu Antoni Kowalski yn rownd gyntaf y gystadleuaeth ddydd Sadwrn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.