Argyfwng tai: Pleidiau gwleidyddol 'ddim yn deall maint yr her'
Argyfwng tai: Pleidiau gwleidyddol 'ddim yn deall maint yr her'
Nid yw pleidiau gwleidyddol Cymru "yn deall maint yr her" wrth fynd i'r afael â'r argyfwng tai, yn ôl elusen Shelter Cymru.
Rhybuddio mae’r elusen fod prinder tai yn creu sefyllfa argyfyngus yng Nghymru gyda mwy na 94,000 o bobl yn aros am dŷ cymdeithasol ar hyn o bryd.
Yn ôl gwaith ymchwil newydd gan Sefydliad Bevan, y disgwyl yw y bydd angen codi dros 150,000 o dai dros yr 20 mlynedd nesaf i ddiwallu’r angen.
Wrth siarad â Newyddion S4C, mae un dyn o Sir y Fflint yn dweud nad yw prynu tŷ yn realiti na chwaith o fewn cyrraedd nifer o bobl ifanc beallch.
Yn wreiddiol o ardal Bethesda, fe symudodd Dafydd Roberts i Bagillt, Sir Y Fflint dros ddwy flynedd yn ôl gyda’i bartner wrth chwilio am dŷ i’w rentu.
Ar ôl treulio misoedd yn chwilio yn agosach at adref, mae’n dweud mai gadel Gwynedd oedd yr unig opsiwn i gael tŷ rhent.
Mae Mr Roberts bellach yn ceisio cynilo arian am flaendal er mwyn prynu tŷ ond yn dweud fod hynny bron yn amhosib.
“Ar hyn o bryd ‘da ni’n talu £800 y mis ar rent ond ma' hwnna yn cael ei gynyddu mis nesa wan i £950... mae’n reit siriys efo’r ffordd mae pethau yn mynd ar y funud," meddai.
“Mae wedi bod yn amser pryderus, da ni wedi bod yn poeni a ‘da ni jest yn gorfod stretchio, torri pethau allan i neud yn siŵr ein bod ni’n gallu talu rhent ni.
“Dio ddim o fewn golwg y bydd ni’n gallu prynu tŷ... mae na waith angen ei wneud i gefnogi bobl ifanc i gadw nhw yma yng Nghymru”.
Yn ôl gwaith ymchwil elusen Shelter Cymru, mae eu hystadegau diweddaraf yn awgrymu fod 94,000 o bobl yng Nghymru yn aros am dŷ cymdeithasol.
Addewid Llywodraeth Cymru oedd i godi 20,000 o dai fforddiadwy carbon isel i’w rhentu o fewn y tymor seneddol diwethaf.
Mae Archwilio Cymru yn dweud mai 18,652 fydd yn llwyddo i gael eu codi yn ystod y tymor seneddol hwn gyda rhai sefydliadau yn dweud wrth Newyddion S4C nad yw bob un cartref yn adeilad newydd, gyda rhai yn cael eu hailbwrpasu.
Ym mis Ionawr, roedd 10,627 o bobl yn byw mewn llety dros dro yng Nghymru, llefydd fel gwestai a llety gwely a brecwast, ac mae Shelter Cymru yn galw am weithredu.
“Dwi ddim yn credu bod y pleidiau yn deall maint yr her sydd o’u blaenau nhw”, meddai Heddyr Gregory o’r elusen.
“Mae nhw’n deall fod na broblem, mae nhw’n gwybod fod digartrefedd ar gynnydd ac yn ffrwydro ond mae addewidion yn un peth, mae cael y maen i’r wal yn beth arall.
“Mae’r her yn anferth i’r llywodraeth nesaf yng Nghaerdydd er mwyn darparu y tai cymdeithasol pan ‘da ni’n ystyried fod 94,000 ar restr aros am dŷ cymdeithasol”.
Yn y Felinheli mae cymdeithas tai Adra wrthi’n cwblhau cynllun o 23 o dai fforddiadwy sy’n gymysg eu natur a darpariaeth.
Yn ôl prif weithredwr Adra, mae’n rhaid i dai fod yn flaenoriaeth i lywodraeth nesaf Cymru.
“Mae wir angen cefnogaeth ar lefel Llywodraeth Cymru er mwyn cynyddu’r cyflenwad o dai cymdeithasol”, medd Iwan Trefor Jones.
“Mae’n bwysig bod ni’n cael mwy o adnodau, mae datblygiadau fel hyn yn gostus, mae chwyddiant yn effeithio ar y sector yn sylweddol”.
Ychwanegodd fod angen mwy o fuddsoddiad yn y stoc bresennol o dai hefyd, gyda rhai yn bron i 100 oed yn y gogledd.
Ymateb y pleidiau
Yn ôl Reform UK, "mae Cymru'n wynebu prinder tai ac mae'n cynlluniau yn glir yn eu maniffesto i godi mwy o dai."
Dweud mai Plaid Cymru bod ganddyn nhw "bolisïau uchelgeisiol a blaengar i daclo’r argyfwng tai."
Mae'r Blaid Werdd yn dweud fod "tai yn flaenoriaeth ac y byddan nhw'n rhewi prisiau i bobl sy'n rhentu a chyflwyno rheolau tynnach."
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol am godi 30,000 yn rhagor o dai cymdeithasol a buddsoddi yn y stoc bresennol.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig am godi 40,000 o dai newydd a thorri treth stamp meddai'r blaid honno.
Yn ôl Llafur Cymru fe fydde nhw’n “darparu 100,000 o gartrefi dros 10 mlynedd g a hynny’n cynnwys 40,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel i’w rhentu” hefyd.
