Pryderon y gallai toriadau'r BBC effeithio ar raglenni Cymraeg

Newyddion S4C

Pryderon y gallai toriadau'r BBC effeithio ar raglenni Cymraeg

Mae cyn-gadeirydd dros dro'r BBC wedi codi pryderon y gallai toriadau'r gorfforaeth arwain at wario llai o arian ar raglenni teledu Cymraeg.

Ar hyn o bryd mae BBC Cymru yn darparu isafswm o 10 awr bob wythnos i S4C - a rhai o'r rhaglenni hynny wedi bod yn rhan o amserlen y sianel ers ei sefydlu yn 1982.

Fe gyhoeddodd y BBC ddydd Mercher fod angen arbed £500m, ac fe all y toriadau hefyd olygu colli hyd at 2,000 o swyddi.

Yn ogystal â bod yn gadeirydd dros dro ar y BBC ac yn aelod Cymru ar fwrdd rheoli'r gorfforaeth am 13 mlynedd, mae'r Athro Fonesig Elan Closs Stephens hefyd yn gyn-gadeirydd bwrdd rheoli S4C.

"Beth allai fod yn broblem ydy faint o arian sy'n dod i BBC Cymru i wneud eu rhaglenni nhw," meddai.

"Y rhaglenni maen nhw'n eu rhoi'n uniongyrchol, sef Pobol y Cwm, Newyddion S4C ac wrth gwrs rhywbeth mawr iawn fel gwneud yr Eisteddfod bob blwyddyn, sydd yn brosiect enfawr."

Er nad ydy'r BBC wedi ymateb i'r pwynt penodol hwnnw, mae un o'r cyfarwyddwyr, Rhuanedd Richards, sydd â chyfrifoldeb am y cenhedloedd, yn dweud y bydd yn rhaid i Gymru, "wneud eu rhan" wrth arbed arian.

Yn hynny o beth, ychwanegodd y gallai gael effaith ar bob rhan o'r gorfforaeth yng Nghymru, ac y bydd "penderfyniadau anodd" angen eu gwneud.

'Trafod'

Mae'r BBC yn dweud bod eu costau'n codi'n uwch na'u hincwm ar hyn o bryd, ac mai un o'r anawsterau ydy bod llai o bobol yn talu'r drwydded deledu - gan fod ffyrdd cyfreithlon i osgoi talu honno bellach drwy beidio â gwylio teledu byw.

Fe ddywedodd y Cyfarwyddwr Cyffredinol dros dro, Rhodri Talfan Davies wrth staff ddydd Mercher fod pob adran yn edrych ar eu cynlluniau i weld a oes modd osgoi dyblygu - a pha weithgareddau all, o bosib ddod i ben, tra'n blaenoriaethu'r cynnwys a'r gwasanaethau sydd a'r effaith fwyaf ar y gynulleidfa.

Mae'r rhan fwyaf o gyllideb S4C yn dod trwy law'r BBC - a hynny'n £95m y flwyddyn, yn ôl cyfrifon diweddara'r Gorfforaeth.

Nid y BBC sy'n penderfynu ar y ffigwr hwnnw, ond yn hytrach Llywodraeth y DU.

"Yr Ysgrifennydd Gwladol sy'n gyfrifol am osod lefel yr incwm mae S4C yn ei dderbyn o'r ffi drwydded, ac mae'r cyllid hynny wedi ei gytuno, ac yn cynyddu gyda chwyddiant, ar gyfer y ddwy flynedd nesaf," meddai llefarydd ar ran S4C.

"Mae gwerth cynllun rhaglenni BBC Cymru i S4C wedi ei gytuno ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol, a does dim gostyngiad i hwnnw. Does dim awgrym chwaith y bydd unrhyw doriad yng ngwerth y cynllun hwnnw tu hwnt i hynny.

"Byddwn yn trafod gyda’r Ysgrifennydd Gwladol i sicrhau incwm digonol i S4C fel rhan o Adolygiad Siarter y BBC ar gyfer y blynyddoedd canlynol.”

'Cyfnod heriol'
 
Mae Newyddion S4C hefyd wedi cysylltu ag adran ddiwylliant Llywodraeth y DU - DCMS - gan ofyn am ymateb i'r cyhoeddiad diweddaraf.
 
Ond mae'r cyhoeddiad am doriadau'n achos gofid hefyd i'r corff sy'n siarad ar ran y cynhyrchwyr annibynnol yng Nghymru, TAC (Teledwyr Annibynnol Cymru).
 
“Mae’r datganiad gan y BBC yn amlwg yn un pryderus iawn." meddai'r Cadeirydd Llŷr Morus. 
 
"Fe fydd hyn nid yn unig yn cael effaith ar weithlu’r BBC yma yng Nghymru ond hefyd ar y cyfleoedd comisiynu, felly mae hyn am gael effaith ar draws y sector gynhyrchu.  
 
"Mae TAC yn falch o’r berthynas dda sydd ganddi gyda’r BBC, a byddaf yn gofyn am gael trafodaethau er mwyn gweld sut gallwn gynnig cefnogaeth i’r BBC a pharhau gyda’r cydweithio agos er lles aelodau TAC a’r sector ehangach yn ystod y cyfnod heriol hwn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.