Yr heddlu'n ymchwilio wedi i furlun gael ei ddifrodi ar adeilad Tŷ Pawb, Wrecsam
Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio i ddigwyddiad casineb honedig wedi i furlun ar ganolfan gelfyddydol Tŷ Pawb yn Wrecsam gael ei ddifrodi.
Dywedodd y llu eu bod wedi derbyn adroddiadau am graffiti sarhaus ar y darn o gelf sydd ar ochr yr adeilad ddydd Sadwrn.
Fe gafodd y murlun o Flodeuwedd gan yr arlunydd Sophie Jacobsen ei ddadorchuddio ar yr adeilad ym mis Chwefror eleni.
Ychwanegodd yr heddlu fod ymholiadau i'r digwyddiad yn parhau, ac maent yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod 26000285263.

