Gwireddu cynllun brechu Covid-19 yn 'gamp ryfeddol', yn ôl ymchwiliad

Baroness Heather Hallett (PA)

Mae angen diwygio cynllun am iawndal i bobl a wnaeth ddioddef anaf neu salwch yn ystod y cynllyn brechu Covid-19, yn ôl ymchwiliad cyhoeddus i’r pandemig.

Yn ei hadroddiad, dywedodd cadeirydd yr ymchwiliad Covid-19, y Farwnes Heather Hallett bod y Llywodraeth wedi cyflawni “camp rhyfeddol” wrth sefydlu’r cynllun brechu.

Dywedodd y Farwnes Hallett fod y DU yn un o arweinwyr y byd ym maes gwyddoniaeth bio-feddygol, a oedd yn allweddol wrth ddatblygu a darparu brechlynnau ar raddfa genedlaethol.

Ond mae hi nawr yn galw ar y Llywodraeth i weithredu ar fyrder er mwyn cyflawni taliadau i’r “lleiafrif bychan” o bobl a ddioddefodd unrhyw niwed yn sgil y brechlynnau, ac yn galw am godi uchafswm yr iawndal sydd ar gael ar hyn o bryd - sef o £120,000, a'i godi i o leiaf £200,000.

Mae hefyd yn galw am ddiddymu amod bod yn rhaid i berson fod â lefel anabledd o 60% cyn eu bod yn gallu hawlio taliad, gan ddweud fod y system fel mae hi yn gadael “y bobl sydd ag anafiadau difrifol, ond sydd ddim yn cyrraedd y trothwy o 60%, yn waglaw.”

Dywedodd yr adroddiad: “Dylai’r rhan yma o’r cynllun gael ei ddiddymu ar unwaith ac fe ddylai ystyried cynllun sydd yn defnyddio trothwyon graddedig.”

Dyma’r pedwerydd adroddiad sydd wedi’i gyhoeddi fel rhan o’r Ymchwiliad Cyhoeddus i Covid-19, sydd yn canolbwyntio ar frechlynnau a therapïau.

Dywedodd y Farwnes Hallett er bod rhai o bobl wedi eu niweidio gan frechlynnau, roedd systemau effeithiol mewn lle i asesu eu lefelau effeithlonrwydd a diogelwch.

Er hynny, fe wnaeth gydnabod “dioddefaint y rhai lle y gwnaeth brechlynnau arwain at anaf difrifol neu farwolaeth.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.