Cyffuriau Clefyd Alzheimer 'ddim yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol' i gleifion

Clefyd Alzheimer

Dydi cyffuriau sy’n ceisio arafu Clefyd Alzheimer ddim yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion, yn ôl adolygiad newydd. 

Mae’r adolygiad hefyd yn dweud eu bod yn cynyddu’r risg o chwyddo a gwaedu ar yr ymennydd.

Dywedodd ymchwilwyr fod effaith y cyffuriau ar bobl ag Alzheimer’s cynnar neu ddementia naill ai’n absennol neu’n fach iawn.

Ond mae elusennau wedi herio’r casgliadau. Maen nhw’n dweud bod arbenigwyr wedi rhoi pob cyffur yn yr un categori, gan gyfuno treialon aflwyddiannus hŷn gyda threialon mwy diweddar a oedd yn llwyddiannus.

Mae cyffuriau gwrth-amyloid yn targedu protein sy’n cronni yn ymennydd pobl ag Alzheimer’s. Y nod yw eu bod nhw’n clirio’r dyddodion (deposits) hyn ac i arafu dirywiad gwybyddol.

Ond dywedodd Edo Richard, athro niwroleg yng Nghanolfan Feddygol Prifysgol Radboud yn yr Iseldiroedd, fod ei dîm wedi sylwi nad yw canlyniadau treialon dros yr 20 mlynedd diwethaf yn gyson.

Mae dau gyffur gwrth-amyloid, sef lecanemab a donanemab, wedi’u trwyddedu i’w defnyddio yn y DU.

Ond dydyn nhw ddim wedi’u cymeradwyo i’w defnyddio ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. 

Penderfynodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (Nice) fod y manteision yn rhy fach i gyfiawnhau’r gost.

Edrychodd adolygiad newydd Cochrane ar 17 o astudiaethau oedd yn cynnwys 20,342 o gleifion.

Roedd y rhan fwyaf o’r cleifion naill ai â nam gwybyddol ysgafn, sy’n gallu achosi problemau gyda meddwl a chof, dementia, neu’r ddau. Roedd eu hoedran cyfartalog rhwng 70 a 74.

Roedd yr astudiaethau’n cynnwys treialon ar lecanemab a donanemab, yn ogystal ag aducanumab, sydd bellach wedi’i dynnu’n ôl gan y gwneuthurwr, a bapineuzumab, crenezumab a solanezumab, a gafodd eu rhoi o’r neilltu ar ôl treialon aflwyddiannus.

Canfu’r dadansoddiad nad oedd effaith “ystyrlon” gan y cyffuriau hyn ar weithrediad y meddwl a difrifoldeb dementia ar ôl 18 mis.

Yn ôl yr Athro Richard, roedd y gwahaniaeth a welwyd ymhell islaw’r lefel isaf y byddai claf neu ofalwr yn sylwi arni.

Yn ôl yr astudiaeth, gallai’r cyffuriau hefyd gynyddu’r risg o chwyddo a gwaedu ar yr ymennydd.

Roedd y sgil-effeithiau hyn i’w gweld ar sganiau ymennydd, ac nid oedden nhw’n achosi symptomau i’r rhan fwyaf o gleifion. Ond dydy’r effaith hirdymor ddim yn glir.

Ymateb

Dywedodd Francesco Nonino, niwrolegydd ac epidemiolegydd yn Sefydliad Gwyddorau Niwrolegol Bologna yn yr Eidal: “Yn anffodus, mae’r dystiolaeth yn awgrymu nad yw’r cyffuriau hyn yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon i gleifion.

“Bellach mae cryn dipyn o dystiolaeth yn pwyntio at yr un casgliad, sef nad oes effaith glinigol ystyrlon.

“Roedd rhai treialon cynnar yn dangos canlyniadau ystadegol arwyddocaol. Ond mae’n bwysig gwahaniaethu rhwng hynny a gwir fudd i gleifion. 

“Mae’n eithaf cyffredin i dreial ddod o hyd i ganlyniad ystadegol arwyddocaol sydd ddim yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion.”

Ond dywedodd Dr Richard Oakley o’r Gymdeithas Alzheimer’s bod casgliadau’r adolygiad "yn gwneud i’r darlun edrych yn waeth nag ydyw mewn gwirionedd".

“Mae hynny herwydd bod yr awduron wedi cyfuno canlyniadau llawer o dreialon aflwyddiannus gyda nifer bach o dreialon mwy diweddar a oedd yn llwyddiannus.

“Mae hynny’n cynnwys treialon lecanemab a donanemab, ac mae rheoleiddiwr meddyginiaethau’r DU wedi dweud eu bod yn rhoi budd cymedrol ond ystyrlon i bobl ag Alzheimer’s cynnar.

“Mae’n bwysig ein bod yn dehongli’r adolygiad hwn yn ofalus ac nad ydyn ni’n chwalu degawdau o waith gwyddonol arloesol.”

Dywedodd Jonathan Schott, athro niwroleg ac arweinydd grŵp yn Sefydliad Ymchwil Dementia y DU yn UCL: “Pan fyddwch chi’n cyfuno astudiaethau ar gyffuriau gwahanol, y mae llawer ohonyn nhw wedi cael eu rhoi o’r neilltu ers tro, nifer ohonyn nhw heb fawr ddim effaith ar beta-amyloid, a’r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi methu mewn treialon clinigol, mae bron yn anochel mai’r casgliad fydd nad ydy’r grŵp cyfan yn effeithiol yn glinigol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.