Wrecsam: Carcharu dyn a oedd yn gweithio mewn ysgol am gam drin disgybl yn rhywiol

Toby Haslam

Mae dyn 30 oed oedd yn gweithio mewn ysgol yn Wrecsam wedi cael ei garcharu am feithrin perthynas amhriodol â disgybl a’i cham-drin yn rhywiol.

Ymddangosodd Toby Haslam, 30 oed, o Heol Old Newcastle, Willaston, gerbron Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Mercher, 15 Ebrill.

Roedd eisoes wedi cyfaddef i naw trosedd, gan gynnwys saith achos o weithgarwch rhywiol gyda phlentyn, un achos o gymryd rhan mewn cyfathrebu rhywiol gyda phlentyn, a meddu ar ffotograff anweddus o blentyn.

Cafodd ei garcharu am chwe blynedd a rhoddwyd gorchymyn atal iddo am 10 mlynedd i amddiffyn y dioddefwr.

Cafodd hefyd orchymyn atal niwed rhywiol am 10 mlynedd ac mae’n rhaid iddo gofrestru gyda’r heddlu am gyfnod amhenodol.

Ym mis Medi 2024, derbyniodd Heddlu Gogledd Cymru adroddiad fod Toby Haslam wedi bod yn meithrin perthynas amhriodol gyda phlentyn 15 oed yn yr ysgol lle’r oedd yn gweithio, a’i fod wedi mynd â’r ferch i’w gartref ac ymosod arni’n rhywiol.

Fe wnaeth yr ymchwiliad ddarganfod fod Haslam wedi bod yn siarad â’r plentyn ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd y sgyrsiau wedi troi’n rhywiol, ac roedd wedi prynu sawl anrheg iddi.

Death yr heddlu o hyd i ddelweddau anweddus ar ei ffôn.

Pan ddychwelodd y dioddefwr i’r ysgol ar ôl gwyliau’r haf, dywedodd wrth athrawes am ei pherthynas gyda Haslam.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl James Grimwood o’r Uned Pobl Fregus: “Mae’r dioddefwr yn yr achos hwn wedi bod yn ddewr drwy gydol ymchwiliad yr heddlu.

“Roedd hi’n ferch ysgol fregus a oedd wedi ceisio cefnogaeth gan aelod o staff addysgu. 

“Oherwydd teitl ei swydd, roedd mewn safle o ymddiriedaeth drosti, ac fe gamddefnyddiodd y safle hwnnw er mwyn ei foddhad rhywiol ei hun.

“Dydi o ddim wedi dangos unrhyw arwydd o edifeirwch drwy gydol yr ymchwiliad.

“Mae canlyniad yr achos heddiw yn adlewyrchu difrifoldeb y digwyddiad hwn, ac rwy’n gobeithio y bydd hyn yn cynnig rhywfaint o ddiweddglo i’r dioddefwr.

“Os yw unrhyw berson arall wedi bod yn ddioddefwr trosedd rhywiol, rwy’n eu hannog i roi gwybod i Heddlu Gogledd Cymru.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.