Cowbois Rhos Botwnnog: Codi arian i greu albwm o'u cyngerdd gyda cherddorfa
Mae Cowbois Rhos Botwnnog yn codi arian i greu albwm o'u cyngerdd "swreal" gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn Neuadd Pontio ym Mangor fis Mawrth.
Cafodd y band o ardal Botwnnog ym Mhen Llŷn ei ffurfio gan y brodyr Aled, Dafydd ac Iwan Hughes yn 2006.
Roedden nhw wedi cael cynnig i berfformio gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn 2024, ond bu'n rhaid gohirio'r digwyddiad ar ôl i Iwan, prif leisydd y band, gael ei daro’n wael wrth berfformio yng ngŵyl Sesiwn Fawr Dolgellau y flwyddyn honno.
Dwy flynedd yn ddiweddarach, daeth y freuddwyd yn fyw gydag aelodau eraill y band - Llyr Pari, Branwen Haf Williams, Osian Huw Williams, Gethin Griffiths ac Euron Jones - hefyd yn ymuno â'r brodyr ar y llwyfan.
Dywedodd Aled Hughes o'r band fod y profiad o berfformio gyda'r gerddorfa wedi bod yn "anhygoel".
"Be' oedd yn braf oedd mai dyma'r tro cynta ers i Iwan gael ei daro’n wael i pawb ohona ni fod ar y llwyfan, sef yr wyth ohona ni yn y band," meddai.
"Ond o ran y profiad ei hun, roedd o’n syfrdanol jyst clywed caneuon 'da ni’n nabod ac wedi’u sgwennu yn cael eu codi fel 'na.
"Oedd 'na gymaint o bobl ar y llwyfan a’r ffaith bod yr holl docynnau wedi mynd... oedd o i gyd yn teimlo’n eitha swreal."
Yn ôl Mr Hughes, doedd 'na ddim cyfle i'r band ymarfer gyda'r gerddorfa tan y prynhawn cyn y cyngerdd.
"Roedd 'na botensial iddo fo fethu'n llwyr, ond mi oedd pawb i weld wedi mwynhau’n arw," meddai.
"Ac o'n i'n falch wrth wrando’n ôl a gweld y fideos bod o wedi dod drosodd cystal ag oeddan ni’n gobeithio y bysa fo."
'Ar gof a chadw'
Y bwriad rŵan, yn ôl Mr Hughes, ydi codi £10,000 i gael trwydded i gynhyrchu albwm o'r cyngerdd.
"Mae’r recordiad yn bodoli ac mae’n wbath 'sa ni wrth ein boddau yn ei gael ar gof a chadw," meddai.
"Ond mae 'na gostau uchel iawn sy'n wahanol i albwm arferol o ran trwyddedu’r recording gan y BBC, achos mae 'na lot o bobl ynghlwm â’r peth o ran aelodau’r gerddorfa, staff y gerddorfa a’r trefnwyr - does na’m cost trwydded wrth neud albwm fel arfer, achos ni bia’r recording."
Mae Mr Hughes yn disgrifio'r ymgyrch Crowdfunder fel "system rhag-archebu" yn hytrach nag ymgyrch codi arian.
Bydd cyfraniad o £40 yn prynu copi o'r record feinyl wedi ei harwyddo gan y band, gyda £25 yn prynu copi o'r record.
Bydd cael hawliau i'r drwydded hefyd yn galluogi'r band i ryddhau'r recordiad yn ddigidol.
"Mae o’n garreg filltir i ni bron, achos mae’n wahanol i’n halbwms erill ni," ychwanegodd.
"A 'da ni'n gobeithio bod o'n rwbath sydd o ddiddordeb i’n cefnogwyr ni hefyd."

