Buddugoliaeth gyfforddus i Gymru yn erbyn Albania

Menywod Cymru

Roedd hi’n fuddugoliaeth gyfforddus i Gymru wrth iddyn nhw sgorio pedair gôl yn erbyn Albania nos Fawrth.

Hannah Cain, Elise Hughes a Rhiannon Roberts sgoriodd y goliau wrth i Gymru ennill 4-0 ar y Cae Ras.

Fe ddaeth cyfle cyntaf y gêm i Gymru wedi pedair munud.

Rhedodd Mared Griffiths at yr amddiffyn cyn pasio i Ffion Morgan ar yr asgell dde, ond nid oedd Hannah Cain yn gallu rhwydo o groesiad Morgan.

Ar ôl naw munud roedd cyfle arall i Cain wedi i amddiffynnwr Albania fethu â rheoli croesiad Elise Hughes.

Nid oedd Cain yn disgwyl derbyn y bêl ac fe wiriodd oddi ar ei throed a heibio’r postyn.

Ond fe wnaeth Cain y mwyaf o’i thrydydd cyfle wedi 15 munud wrth iddi rolio’r bêl i gefn y rhwyd ar ôl pas hyfryd gan Mared Griffiths.

Gyda 10 munud tan ddiwedd yr hanner cyntaf fe wnaeth amddiffynnwr dde Albania dderbyn cerdyn melyn cyntaf y gêm ar ôl i Klea Hamonikaj dynnu Elise Hughes i’r llawr.

Fe aeth pethau o ddrwg i waeth i’r ymwelwyr wrth i Hughes sgorio i'w gwneud hi’n 2-0 i Gymru wedi 36 munud.

Cymerodd fantais o gamgymeriad golwr Albania, Rajmonda Spahiu wedi iddi ollwng y bêl o groesiad Hannah Cain, gan adael i Hughes ergydio i gefn y rhwyd.

Cymru felly ar y blaen ac yn rheoli’r chwarae wedi diwedd yr hanner cyntaf.

Image
Hannah Cain yn sgorio ei chyntaf o'r noson. (Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru)
Hannah Cain yn sgorio ei chyntaf o'r noson. (Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru)

Fe ddechreuodd Cymru’r ail hanner yn gryf, ac fe wnaeth Mared Griffiths greu gôl arall i Gymru.

Roedd ei chroesiad hi ar 47 munud wedi canfod Rhiannon Roberts ar y postyn pellaf ac fe wnaeth ei pheniad ddarganfod cefn y rhwyd.

Lai na 10 munud yn ddiweddarach roedd Cymru wedi sgorio eu pedwaredd gôl o’r noson.

Hannah Cain rwydodd yn daclus i gornel isaf y rhwyd wedi croesiad gan Lily Woodham ar yr asgell chwith.

Hon oedd ail gôl Cain ar y noson, a oedd yn chwilio am ei eil hat-tric o’r ymgyrch wedi iddi sgorio tair yn erbyn Montenegro fis diwethaf.

Bu bron i Mared Griffiths sgorio o groesiad ar yr asgell chwaith wedi 62 munud, ond fe daranodd y bêl yn erbyn y trawst.

Parhau wnaeth y cyfleoedd i Gymru wrth i’r gêm agosáu at ei diwedd, ond nid oedd ymosodwyr Cymru yn gallu canfod cefn y rhwyd unwaith eto.

Roedd hi’n noson i’w chofio i Phoebie Poole wrth i’r chwaraewraig 21 oed ddod oddi ar y fainc ar gyfer ei hymddangosiad gyntaf dros ei gwlad.

Bydd Cymru yn wynebu Albania eto oddi cartref ddydd Sadwrn wrth iddyn nhw geisio sicrhau lle ar frig y grŵp

Maen nhw a Tsiecia ar yr un nifer o bwyntiau ar hyn o bryd, ond Tsiecia sydd ar y brig.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.