Dyn mewn cyflwr difrifol wedi gwrthdrawiad ym Mhenfro
05/09/2021
Mae dyn mewn cyflwr difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhenfro fore dydd Sul.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a cherddwr ar y B4319 ger y dref, a ddigwyddodd rhwng 5:30 a 6:15 y bore.
Roedd y car, sef Peugeot 208, yn teithio tuag at Penfro.
Mae'r cerddwr mewn cyflwr "difrifol ond sefydlog".
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un all helpu gyda'u hymchwiliad i gysylltu gyda'r llu, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod DP-20210905-113.