Dyn yn y llys wedi ei gyhuddo o ladd mab cerddor o Gymru

Finbar Sullivan

Mae dyn wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o ladd dyn arall 21 oed a oedd yn fab i gerddor o Gymru.

Bu farw Finbar Sullivan, mab i Christopher Sullivan, ar ôl cael ei drywanu ar Fryn y Briallu yng ngogledd Llundain nos Fawrth 14 Ebrill.

Fe wnaeth Oliuwadamilola Ogunyankinnu, 27 oed ymddangos yn Llys yr Ynadon Stratford fore Llun.

Eisteddodd yn y doc yn gwisgo tracwisg lwyd ac fe siaradodd i gadarnhau ei enw a’i gyfeiriad yn ystod y gwrandawiad byr.

Fe gafodd ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn ymddangos o flaen yr Old Bailey ddydd Mercher.

Cyn diwedd y gwrandawiad dywedodd Oliuwadamilola Ogunyankinnu: "Dwi heb ladd unrhyw un, dwi heb drywanu unrhyw un, maen nhw efo'r person anghywir."

Mewn teyrnged i'w fab, dywedodd Christopher Sullivan, a aned ym Merthyr ac a oedd yn aelod o'r band Blue Rondo à la Turk yn yr 80au, nad oedd modd i unrhyw beth "gymryd lle" ei fab.

"Dyma'r trasiedi gwaethaf y galla i ei dychmygu," meddai wrth y Daily Mail.

"Fe oedd fy unig fab. Ni fydd unrhyw un na dim byd yn gallu cymryd ei le.

"Finbar oedd y bachgen mwyaf prydferth, hyfryd a chariadus. Roedd o wir yn berson hyfryd."

Ychwanegodd Mr Sullivan fod gan ei fab uchelgais i ddilyn olion traed ei daid, y dyn camera Michael Seresin, a weithiodd ar ffilmiau fel Harry Potter and the Prisoner of Azkaban a Rambo III.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.