America ac Iran yn methu dod i gytundeb dros heddwch

12/04/2026
JD Vance

Mae'r Arlywydd Trump wedi dweud y bydd llynges America yn rhwystro llongau rhag cyrraedd neu adael Culfor Hormuz, os yw Iran yn gosod tollau er mwyn penderfynu pwy all deithio drwy'r llwybr allweddol ar gyfer cludo nwyddau a thanwydd.

Cyhoeddodd Donald Trump hynny ar ôl i drafodaethau heddwch rhwng UDA ac Iran ddod i ben heb gytundeb, wedi sgyrsiau hir yn Islamabad, Pacistan. 

Dirprwy Arlywydd America JD Vance oedd yno ar ran America. Dywedodd nad oedd tîm negodi Iran wedi derbyn telerau Washington.

Rhybuddiodd Mr Vance wrth adael Pacistan: "Dyma ein cynnig olaf a gorau."

Ychwanegodd nad oedd ei dîm wedi gallu cael Iran i gadarnhau na fyddent yn datblygu arf niwclear na'r offer a allai eu galluogi i greu un yn gyflym.

Dywedodd gweinyddiaeth dramor Iran fod y telerau yn “ormodol ac afresymol”.

Ychwanegodd llefarydd Iran Esmail Baghaei: “Cafodd y sgyrsiau eu cynnal mewn awyrgylch o amheuaeth, dirmyg a diffyg ymddiriedaeth.

"Nid oedd erioed disgwyl y byddai UDA ac Iran yn cyrraedd cytundeb ar unwaith ond dyw diplomyddiaeth byth yn gorffen.”

Mae Syr Keir Starmer wedi annog America ac Iran i ddod o hyd i ddatrysiad. A galwodd ar i'r cadoediad bregus barhau.  

Fe fu Prif Weinidog y DU yn trafod y sefyllfa rhwng Tehran a Washington gyda Swltan Oman ar ôl i'r trafodaethau ddod i ben heb gytundeb yn ystod oriau mân fore Sul.  

Roedd America ac Iran wedi trafod wyneb yn wyneb, er bod amheuon yn gynharach ddydd Sadwrn a fyddai hynny'n digwydd, ond roedd swyddogion o Bacistan hefyd yn rhan o'r trafodaethau. 

Cyn y trafodaethau hynny, fe fu swyddogion o'r ddwy wlad yn cyfarfod â Phrif Weinidog Pacistan Shehbaz Sharif. 

Dyw'r trafodaethau ddim wedi datrys y prif rwystrau, gyda chadoediad bregus yn ei le.   

Mae Iran yn anfodlon bod Israel yn parhau i ymosod ar dargedau yn Libanus gan ddadlau fod hynny'n torri amodau'r cadoediad a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth. 

On yn ôl yr Americanwyr, doedd Libanus ddim yn rhan o'r cadoediad.

Roedd ailagor Culfor Hormuz, sy'n llwybr allweddol i gludo tanwydd ac olew yn rhan allweddol o'r cadoediad ddydd Mawrth. Ond prin yw'r llongau sydd wedi cael yr hawl i hwylio drwy'r culfor gan Iran. Ac mae hynny wedi cynddeiriogi'r Arlywydd Trump. 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.