'Cynnydd' yn nifer yr achosion o drosedd ar dir eglwysi Cymru

Newyddion S4C
eglwys.jpg

Mae ffigyrau newydd yn awgrymu cynnydd yn nifer yr achosion o drosedd ar dir eglwysi Cymru.

Mae'r cais rhyddid gwybodaeth i'r pedwar llu heddlu yng Nghymru gan y Gynghrair Cefn Gwlad yn dangos bod 'na 271 o droseddau y llynedd.

Yn y tair blynedd cynt, roedd 'na gyfartaledd o 162 o droseddau bob blwyddyn.

Yn ôl yr Eglwys yng Nghymru mae cost unrhyw drosedd yn rhoi baich pellach ar eglwysi tra bod Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu yn dweud eu bod nhw wedi ymrwymo i daclo'r broblem.

Bron i ddwy flynedd yn ôl, fe wnaeth mynwent Eglwys Sant Peblig yng Nghaernarfon ddioddef difrod troseddol. Cerrig beddi yn y fynwent wedi eu difrodi, a rhywun wedi ceisio agor un bedd.

"Roedd na bethau wedi cael ei ysgrifennu ar y beddi," meddai'r cynghorydd lleol, Dewi Jones.

Image
Dewi
Y Cynghorydd Dewi Jones

"Roedd rhai o'r beddi wedi cael eu symud ac ambell i garreg wedi cael eu torri. Felly roedd hi'n eitha brawychus, a dwi'n meddwl bod y dre i gyd yn eitha siomedig. Roedd 'na ymateb reit chwyrn ar y pryd. Dwi'n meddwl taw dyma'r lle ola da chi isho'r math yma o ymddygiad. 

"Mae mynwentydd yn enwedig yn lefydd arbennig, hyd yn oed os ydyn nhw'n hen fynwentydd fel hyn. 

"Mae'r bobol sydd wedi eu claddu yma, ma nhw'n anwyliaid i bobol, ma nhw wedi gwneud cyfraniad a dwi'n credu bod nhw'n haeddu ychydig o barch ac urddas."

'Lluchio caniau cwrw'

Mae Gwyndaf Owen yn gwirfoddoli yn yr eglwys, yn gofalu am y tir. Er bod y troseddu wedi diflannu, nid yw popeth yn berffaith.

"Mae 'na rai yn dal i ddod yma a lluchio caniau cwrw a poteli a pethau. Ond mae'n digwydd," meddai.

Efallai bod pethau wedi gwella ychydig yn Eglwys Sant Peblig dros y blynyddoedd diwethaf, ond ma ystadegau newydd yn awgrymu bod 'na gynnydd mewn achosion o drosedd ar dir eglwysi.

Yn ôl cais rhyddid gwybodaeth gan y Gynghrair Cefn Gwlad i bob llu heddlu yng Nghymru, roedd 'na 271 o droseddau mewn eglwysi neu fannau addoli yng Nghymru'r llynedd.

Ardal Heddlu'r De welodd y nifer fwyaf o droseddau, gyda 47% o'r holl droseddau yn yr ardal yma

Dwyn oedd y drosedd fwyaf cyffredin, gyda dros 100 o achosion o ladrata yn 2025.

"Mae'n dangos i ni pa mor fregus mae llefydd fel hyn, fel adeiladau crefyddol," medd Rachel Evans, Cyfarwyddwr Cymru gyda'r Gynghrair Cefn Gwlad.

Image
RACHEL EVANS - CYFARWYDDWR CYMRU - CYNGHRAIR CEFN GWLAD.jpg
Rachel Evans, Cyfarwyddwr Cymru gyda'r Gynghrair Cefn Gwlad

"Mas yng nghefn gwlad, fel arfer, ma nhw mas 'na ar eu pen eu hun, ac felly ma nhw'n bach o darged rhwydd reli i'r rhai sydd am ddwyn. 

"Mae hyn wedi codi pryder mewn cymunedau gwledig sydd ddim yn gyfarwydd a chael sut gymaint o droseddu felna yn digwydd yn ardal nhw.

"Mae sut gymaint o droseddu yn mynd mlan yng nghefn gwlad a fi'n gwybod bod 'na fwriad gan yr heddlu i neud mwy ynglŷn â troseddu, ond mae'n rhaid i ni gael pobol, y plismyn yng nghefn gwlad, i ddangos i bobol bod nhw yma, achos ni braidd byth yn gweld neb. 

"Felly mae'n rhaid i ni neud yn siŵr bod y visibility yno, bod pobol yn gallu gweld yr heddlu yn eu cymunedau."

Yn ôl yr Eglwys yng Nghymru ma'r ffigyrau yn "destun pryder " a bod troseddau fel hyn "nid yn unig yn effeithio ar adeiladau" ond "clerigwyr a gwirfoddolwyr" hefyd.

Maen nhw'n dweud bod cost ariannol unrhyw ddifrod yn "rhoi baich pellach ar eglwysi".

Fe ddywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Rachel Nolan o Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu eu bod nhw wedi ymrwymo i "daclo'r broblem yma" a'u bod nhw yn "croesawu unrhyw ymchwil i'r maes yma" sy'n eu helpu nhw i ddeall y broblem ac i "addasu eu hymateb i ddal ac atal troseddwyr".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.