Cyn-gynhyrchydd BBC Cymru yn dweud mai rhywun arall oedd wedi llwytho lluniau anweddus o blant ar ei liniadur

Dylan Dawes

Mae llys wedi clywed bod dyfeisiau oedd â lluniau anweddus o blant arnynt ac yn eiddo i gyn-gynhyrchydd BBC Cymru yn cael eu “defnyddio gan sawl aelod o staff” yn y gweithle.

Mae Dylan Dawes, 50 oed, yn wynebu tri chyhuddiad o feddu ar luniau anweddus o blant, a thri chyhuddiad o greu lluniau anweddus o blant ar bedair dyfais wahanol.

Mae wedi pledio’n ddieuog i bob un o’r cyhuddiadau yn ei erbyn.

Yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau fe glywodd y rheithgor gan y diffynnydd Dylan Dawes.

Wrth gael ei holi gan Andrew Taylor ar ran yr amddiffyn, dywedodd Mr Dawes fod nifer o aelodau o staff y BBC yn defnyddio gliniaduron, hard drives a chyfarpar ei gilydd yn y swyddfa.

Roedd Dylan Dawes yn gweithio yn hen adeilad y BBC ar Ffordd Llantrisant yn Llandaf, Caerdydd, yn ogystal â gweithio o’r swyddfa gyferbyn sef Tŷ Oldfields.

Roedd y BBC yn gweithio yn yr adeilad yn Llandaf tan iddynt symud i adeilad newydd yng ganol dref Caerdydd yn 2020.

“Roeddem yn gweithio mewn swyddfeydd mawr agored,” meddai Dylan Dawes wrth y llys.

“Roedd cyflwynwyr, cynhyrchwyr, ymchwilwyr a llawer o weithwyr llawrydd a chontractwyr yn gweithio yno.

“Dros amser roedd yn fwy arferol i adnabod llai a llai o bobl yn y swyddfa.”

Ychwanegodd Mr Dawes fod “ymdeimlad o ymddiriedaeth” yn y gweithle, a bod aelodau staff yn defnyddio cyfarpar ei gilydd gan gynnwys gliniaduron a hard drives.

Dywedodd ei fod yn mynd â’i liniadur personol a hard drive personol, oedd yn cael eu defnyddio at ddibenion gwaith, i’r swyddfa yn aml. 

Roedd lluniau anweddus o blant wedi eu darganfod gan yr heddlu ar y ddwy ddyfais.

'Rhesymau gwaith'

Byddai Mr Dawes yn defnyddio ei liniadur personol yn y gweithle ar gyfer “rhesymau gwaith”, gan honni bod eraill yn ei ddefnyddio at yr un diben.

“Roedd yn arferol i eraill ddefnyddio fy ngliniadur personol a fyddai rhai ddim yn rhoi rhesymau,” meddai.

“Wrth feddwl yn sydyn, dwi ddim yn cofio pwy oedd yn defnyddio’r gliniadur gan fod cymaint o bobl ac roedd hyn sbel yn ôl.

“Byddai’r gliniadur yn y swyddfa dros nos a byddaf yn ei adael yn y swyddfa pan oeddwn yn cynhyrchu rhaglenni radio.”

Ychwanegodd na fyddai pobl fel arfer yn gofyn caniatâd i ddefnyddio ei hard drive, a bod hwn yn “arferiad” yn y swyddfa lle’r oedd yn gweithio ar y pryd.

Roedd desgiau yno yn llawn gliniaduron a hard drives meddai Mr Dawes, ac nid oedd modd adnabod pwy oedd yn berchen ar ba ddyfais heb eu cysylltu i gyfrifiadur.

Dywedodd nad oedd angen cyfrinair i ddefnyddio ei ddyfeisiau.

Clywodd y llys fod system mynedfa i adeilad y BBC yn Llandaf ddim yn berffaith, a bod modd cael mynediad weithiau heb ddefnyddio pas gwaith.

Dywedodd Dylan Dawes fod angen i aelodau o staff ddangos eu pas BBC er mwyn cael mynedfa i’r adeilad, gyda staff diogelwch wrth y drws yn caniatáu mynediad.

“Weithiau byddai modd i chi fynd mewn heb i’r staff diogelwch weld y pas. Byddai rhai staff diogelwch yn eich hadnabod.

“Roedd mynediad yng nghefn yr adeilad hefyd ac roedd y drws yn aml ar agor.”

Ychwanegodd fod system i sganio pasiau wedi ei gyflwyno yn ddiweddarach a bod hwnnw weithiau ddim yn gweithio.

'Dioddefwr'

Wrth gael ei groesiholi gan Harry Baker ar ran yr erlyiad dywedodd Mr Dawes ei fod yn credu bod person neu bobl eraill wedi larwlwytho’r lluniau ar  ei ddyfeisiau.

Mae’r llys eisoes wedi clywed bod swyddogion wedi dod o hyd i 6,277 o ddelweddau anweddus o blant ar ddyfais hard drive, gliniadur, a dau iPad oedd yn berchen i Mr Dawes.

Wrth siarad yn y llys dywedodd Mr Dawes: “Dwi yn bendant yn ddioddefwr wedi i rywun arall lawrlwytho’r lluniau hyn ar y dyfeisiau.

“Dwi’n meddwl ei fod yn ffiaidd bod fideos a lluniau fel hyn yn cael eu creu.”

Pan holodd Mr Baker pam nad oedd wedi llunio rhestr o bobl eraill oedd wedi defnyddio’r ddyfais, dywedodd Dylan Dawes “nad oedd yn gallu meddwl” pwy yn union oedd wedi defnyddio’r dyfeisiau a “nad oedd eisiau amau unrhyw un.”

Dywedodd Dawes fod pobl eraill yn gallu logio mewn i’w liniadur personol gan nad oedd cyfrinair arno ac felly roedd pobl yn gallu lawrlwytho deunydd.

Clywodd y llys bod eitemau wedi eu symud yn uniongyrchol o’r gliniadur a’r hard drive i fin ailgylchu’r dyfeisiau, ac roedd Mr Dawes yn cytuno gyda hyn.

Ond dywedodd mai nid fo oedd yn gyfrifol am wneud hynny, a’i fod yn “anffodus” fod lluniau wedi symud i’r bin ailgylchu ac wedi eu dileu oddi ar y pedwar dyfais.

Ychwanegodd fod pobl yn gallu mynd ar ei liniadur, gwylio deunydd pornograffig anghyfreithlon ac wedyn eu symud i’r bin ailgylchu a rhoi’r bai arno.

Gofynnodd Harry Baker ar ran yr erlyniad wrth y diffynnydd os oedd yn dweud celwydd er mwyn ceisio “darganfod ffordd allan o’r sefyllfa?”

Gwadodd Mr Dawes y ddamcaniaeth honno gan ddweud ei fod yn “hollol anwir” ei fod wedi lawrlwytho’r lluniau.

Mae'r achos yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.