Iwerddon: Galw'r fyddin i symud cerbydau protestwyr prisiau tanwydd
Mae byddin Iwerddon wedi cael ei galw i gael gwared ar gerbydau trwm sy'n blocio depos tanwydd yn y wlad, wrth i brotest yn erbyn prisiau tanwydd barhau am y trydydd diwrnod.
Dywedodd Gweinidog Cyfiawnder y wlad, Jim O’Callaghan, y byddai cerbydau trwm sy'n blocio seilwaith hanfodol yn cael eu symud.
Dechreuodd sawl protest wahanol ddydd Mawrth, yn cynnwys confois araf ar draffyrdd yn ogystal â blocio prif ffyrdd yn Nulyn a dinasoedd eraill.
Ymhlith y rhai a gymerodd ran roedd cwmnïau cludo a chontractwyr amaethyddol yn defnyddio lorïau a thractors i amharu ar draffig.
Fe wnaeth y protestio ddwysau erbyn dydd Mercher, gyda protestwyr yn blocio depos tanwydd a phurfa olew Whitegate yn Sir Cork, cam gafodd ei ddisgrifio gan y Taoiseach, Micheal Martin fel "gweithred o sabotage cenedlaethol".
Dywedodd Mr Martin hefyd nad oedd yn "dderbyniol" troi prif ffordd Dulyn, Stryd O'Connell, "yn faes parcio" wrth i brotestwyr ddefnyddio tractors i atal traffig yng nghanol y brifddinas.
Dywedodd Brigâd Dân Dulyn ei bod wedi cael ei hatal wrth ymateb i argyfyngau o ganlyniad i'r protestiadau.
Dywedodd Gweinidog Amaethyddiaeth Iwerddon, Martin Heydon y byddai'r Llywodraeth yn cyfarfod â grwpiau ymgyrchu ar ran ffermwyr a chwmnïau cludiant, ond na fyddai'n cyfarfod â phrotestwyr sy'n blocio dinasoedd, depos tanwydd ac unig burfa olew y wlad.
Dywedodd Mr Heydon wrth Morning Ireland ar y sianel genedlaethol RTÉ: “Yr hyn sy'n glir iawn yma yw bod hwn yn ddewis clir rhwng democratiaeth neu anhrefn, ac mae gennym reolaeth y gyfraith yn y wlad hon.
“Rwy'n deall yn llwyr o ble mae rhwystredigaeth pobl yn dod o ran y sioc ynni uchel iawn o ganlyniad i'r rhyfel sydd wedi torri allan rhwng America, Israel ac Iran.”
Llun: PA