Dringwyr yn chwynnu rhododendron o greigiau uchel ym Mhen Llŷn
Mae gweithwyr arbenigol wedi bod yn gweithio i amddiffyn rhostir bregus uwchben arfordir yng Ngogledd Cymru.
Yn hongian ar rhaffau ar uchder o 90 metr, maen nhw wedi bod yn trin rhododendron sy'n tyfu ar glogwyn yn uchel uwchben y môr.
Cynlluniodd Cyfoeth Naturiol Cymru y gwaith ym Mynydd Tir y Cwmwd ym Mhen Llŷn ar ôl dod o hyd i'r planhigion ymledol yn lledaenu ar draws rhannau o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), gan gynnwys wyneb clogwyn a thir serth nad oes modd ei gyrraedd yn ddiogel fel arall.
Mae trin a chael gwared ar y rhododendron yn hanfodol i ddiogelu'r cynefin rhostir meddai Cyfoeth Naturiol Cymru.
Er fod rhododendron yn gyffredin mewn gerddi, mae’n gallu lledaenu’n gyflym yn y gwyllt gan fygu cynefin a phlanhigion brodorol.
Ar y pentir roedd wedi dechrau cuddio goleuni, tagu'r haen ddaear a gwanhau'r rhostir sy'n diffinio'r safle fel un arbennig.
Defnyddiodd CNC gontractwyr arbenigol i wneud y gwaith rhaffau.
Dywedodd Arfon Hughes, Arweinydd Tîm Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae rhododendron yn fygythiad difrifol i rai o gynefinoedd brodorol Cymru, ac yn Nhir y Cwmwd roedd yn tyfu mewn mannau a oedd yn anodd iawn eu cyrraedd.
"Roedd y gwaith rhaffau hwn yn caniatáu inni gael gwared ar blanhigion a fyddai wedi parhau i ledaenu ar draws y clogwyni a niweidio'r ecosystem.
"Mae'n dangos yr eithaf yr awn ni i er mwyn gwarchod ac adfer natur."