Castell Newydd Emlyn: Arestio dyn wedi i yrrwr beic modur ddioddef anafiadau difrifol
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad difrifol i'r de o Gastell Newydd Emlyn fore dydd Mercher.
Digwyddodd y ddamwain ar ffordd yr B4333, Capel Iwan, am ychydig wedi 07:00.
Cafodd yr heddlu eu galw yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng fan wen Mercedes Sprinter oedd yn tynnu trelar, a beic modur Triumph du.
Cafodd gyrrwr y beic modur ei gludo mewn hofrennydd i'r ysbyty, lle mae'n cael ei drin am anafiadau difrifol.
Mae gyrrwr y fan Mercedes, dyn 45 oed, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol trwy yrru'n ddiofal ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Mae'r ffordd ar gau ar hyn o bryd tra bod swyddogion yr heddlu yn cynnal eu hymholiadau.
Mae'r tîm ymchwilio yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y cerbydau cyn y gwrthdrawiad i gysylltu gyda nhw drwy ffonio 101 neu 0800 555111.