Cynnal cyrch cyffuriau ym Mhlas Glynllifon yng Ngwynedd
Cynnal cyrch cyffuriau ym Mhlas Glynllifon yng Ngwynedd
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cynnal cyrch cyffuriau ym Mhlas Glynllifon yng Ngwynedd ddydd Mawrth.
Dywedodd y llu eu bod wedi gweithredu gwarant o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau yn y plasdy.
Ychwanegodd yr heddlu y byddai swyddogion heddlu yn parhau i fod yn bresennol yn y lleoliad am rai dyddiau tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.
Mae'r llu yn gofyn i'r cyhoedd gadw draw o'r lleoliad tan y bydd yr ymholiadau ar ben.
Cafodd ymgyrch codi arian ei lansio y llynedd i dalu am waith i adnewyddu'r plas hanesyddol.
Fe wnaeth cwmni er budd cymunedol ei sefydlu er mwyn "ymgymryd â'r dasg enfawr o ddod â bywyd yn ôl i Blas Glynllifon".
Mae Plas Glynllifon wedi bod yn nwylo nifer o ddatblygwyr sydd wedi ceisio adfywio'r adeilad sylweddol dros y blynyddoedd.
Cafodd ei brynu gan Paul a Rowena Williams yn 2016 gyda'r gobaith o droi'r plasty yn westy moethus, ond fe aeth y busnes hwnnw i'r wal yn 2020.