America ac Iran yn dod i gadoediad
Mae'r Unol Daleithiau ac Iran wedi dod i gadoediad am bythefnos.
Y bwriad yw cynnal trafodaethau yn y cyfnod yma er mwyn ceisio dod â'r rhyfel yn y Dwyrain Canol i ben.
Fe ddaeth y cyhoeddiad tua awr cyn i fygythiad Donald Trump i fomio Iran "yn ôl i Oes y Cerrig" ddod i rym.
Mae Gweinidog Tramor Iran wedi dweud y bydd culfor Hormuz yn ail agor yn ystod y pythefnos o gadoediad.
Mae Arlywydd America wedi dweud bod hyn yn "ddiwrnod mawr ar gyfer heddwch y byd" a bod Iran wedi cael "digon" o'r gwrthdaro. Mae Iran hefyd yn hawlio buddugoliaeth gan ddweud bod yr Unol Daleithiau ac Israel wedi methu yn eu hymgais i'w trechu yn llwyr.
Ond mae yna ansicrwydd am ddyfodol Libanus. Mae Israel wedi cytuno i stopio unrhyw ymosodiadau ar Iran ond maent yn dweud bod Libanus wedi ei heithrio o'r cadoediad. Roedd Pacistan, wnaeth helpu i lunio'r cadoediad wedi dweud bod y cytundeb yn cynnwys y wlad.
Yn sgil y cyhoeddiad am y cadoediad mae pris olew wedi gostwng ond mae dal yn llawer uwch nag yr oedd cyn i'r rhyfel ddechrau.
Llun: Reuters