Gwasanaethau brys yn ymateb i ddigwyddiad yng Nghaernarfon
04/09/2021
Gwasanaethau brys yn ymateb i ddigwyddiad yng Nghaernarfon
Mae'r gwasanaethau brys wedi bod yn ymateb i ddigwyddiad yng Nghaernarfon, gyda phresenoldeb yr heddlu wedi ei weld ger y Castell ers tua 19:00 nos Sadwrn.
Mae hofrennydd y Tîm Chwilio ac Achub wedi bod yn cylchdroi uwchben aber Afon Seiont ger y Cei Llechi islaw'r Maes.
Roedd awgrym gan lygaid-dystion fod bachgen wedi disgyn i'r dŵr ond nid yw hyn wedi ei gadarnhau'n swyddogol.
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Heddlu'r Gogledd am ddiweddariad ar y sefyllfa.