Lauren Price yn llwyddo i amddiffyn ei theitlau byd yng Nghaerdydd
Mae Lauren Price wedi amddiffyn ei theitlau bocsio'r byd wedi iddi ennill ei gornest nos Sadwrn yn erbyn Stephanie Pineiro.
Fe lwyddodd Price, 31, i amddiffyn gwregys pwysau welter y WBA, IBF a WBC, ond roedd yn rhaid iddi frwydro'n galed er mwyn cipio’r fuddugoliaeth.
Fe gafodd anaf difrifol i'w phen ym mhumed rownd yr ornest yn erbyn y bocsiwr o Puerto Rico a oedd erioed wedi colli gornest o'r blaen.
Ond fe barhaodd y Gymraes o Ystrad Mynach i ymladd hyd at y gloch olaf a chafodd ei gwobrwyo gyda phenderfyniad unfrydol ar y sgoriau.
Roedd y canwr Dafydd Iwan wedi dweud wrth Newyddion S4C cyn yr ornest ei fod yn "edrych ymlaen" at gael perfformio ei anthem Yma o Hyd yn fyw o'r sgwar.
Dywedodd ei fod wedi cael gwahoddiad i berfformio ei anthem Yma o Hyd wrth i Price gerdded i mewn i'r cylch.
"Lauren sydd wedi gofyn i mi ganu, a byddaf yn canu yn y sgwâr ei hun, gyda'r ddwy fydd yn paffio," meddai.
Beth nesa' i Price?
Ar ôl yr ornest, fe aeth Claressa Shields - sydd wedi ennill 15 teitl byd ar draws pum adran pwysau - i mewn i'r cylch i wynebu Price.
"Rwyf eisiau'r gornestau mwyaf mewn bocsio, ac am anrhydedd mawr fyddai rhannu'r cylch gyda Shields," meddai Price.
"Byddai'n gwneud gornest wych, ond nid dim ond un gornest. Fe wnes i ddweud wrthi heno: 'Gad i ni ei wneud e, fe wnaf i ddod i America ac wedyn ti'n dod i Gymru,' ac fe gytunodd hi ar hynny. Felly gobeithio y gallwn ni wneud i hynny ddigwydd.
"Dyna pam rwyf yn y gêm, rwyf eisiau ymladd y gorau. Clod i Shields - rwy'n ei pharchu - ond rwy'n cefnogi fy hun!"
Dywedodd Shields y byddai'n trafod lleoliad unrhyw ornest ond awgrymodd y byddai modd i'r ddwy gyfarfod ar ddiwedd y flwyddyn.
Fe enillodd Price, 31, fedal aur Olympaidd yn Tokyo 2020, sef y bocsiwr cyntaf o Gymru i wneud hynny, cyn troi yn broffesiynol yn 2022.