Dafydd Iwan yn 'edrych ymlaen' at ganu ar ddechrau gornest Lauren Price
Mae'r canwr Dafydd Iwan wedi dweud ei fod yn "edrych ymlaen" at gael perfformio ei anthem Yma o Hyd ar ddechrau gornest y bocsiwr Lauren Price yn erbyn Stephanie Pineiro yng Nghaerdydd nos Sadwrn.
Bydd Price yn amddiffyn gwregys pwysau welter y WBC, WBA ac IBF, gyda'r fantais gartref yn hwb mawr iddi.
Nid yw Price wedi bocsio ers ychwanegu'r beltiau WBC ac IBF i'w theitl WBA yn y fuddugoliaeth sylweddol yn erbyn Natasha Jonas yn Llundain y llynedd.
Dywedodd Dafydd Iwan ei fod wedi cael gwahoddiad i berfformio ei anthem Yma o Hyd wrth i'r bocsiwr o Sir Gaerffili gerdded i mewn i'r cylch.
"Lauren sydd wedi gofyn i mi ganu, a byddaf yn canu yn y sgwâr ei hun, gyda'r ddwy fydd yn paffio," meddai.
"Canu gyda'r recordiad fydda i fel arfer, ond gyda meic byw."
Nid dyma'r tro cyntaf i Dafydd Iwan ganu Yma o Hyd yn y cylch bocsio.
Yn 2023, canodd ei anthem yng nghwmni miloedd o gefnogwyr bocsio Cymru wrth i Joe Cordina gerdded i'r cylch yn Arena Utilita Caerdydd.
"Os oedd profiad Cordina yn wir, mi fydd fel ffair yno, a phawb yn sgrechian canu! Profiad tebyg i'r Wal Goch, ond gyda mwy o ferched falle," meddai.
"Mae'n hynod o bwysig bod y Gymraeg yn rhan o bethe fel hyn, ac y mae'n brawf o'r modd y mae cymdeithas gyfan bellach yn derbyn yr iaith fel rhan o'u profiad.
"Dwi'n edrych ymlaen yn arw."
'Nid oes unrhyw deimlad tebyg'
Dywedodd Price "nad oes unrhyw deimlad" fel yr un wrth gerdded allan i dorf o Gymru.
"Mae 4 Ebrill yn fwy na dim ond ceisio cadw fy nheitlau, dwi eisiau cadarnhau fy ngwaddol. Mae Stephanie yn wrthwynebydd o safon fyd-eang, ond dwi wedi profi dro ar ôl tro fy mod i ar y brig i aros," meddai. "Mae'r teitlau yn aros yng Nghymru."
Fe enillodd Price, 31, fedal aur Olympaidd yn Tokyo 2020, sef y bocsiwr cyntaf o Gymru i wneud hynny, cyn troi yn broffesiynol yn 2022.
Nid yw Pineiro wedi colli mewn 10 gornest broffesiynol, ond nid yw hi erioed wedi ymladd y tu allan i Puerto Rico.
"Efallai fod gan Lauren y cefnogwyr cartref ar ei hochr hi, ond mae gen i wlad y tu ôl i mi hefyd," meddai Pineiro.
"Dwi'n dod er mwyn mynd â'r beltiau yn ôl i Puerto Rico."
Byddai buddugoliaeth i Price yn ei harwain ar y trywydd i ddal y pedwar teitl byd.
Fe wnaeth fynychu'r ornest rhwng Mikaela Mayer a Sandy Ryan yn Las Vegas ym mis Mawrth, gyda Mayer yn amddiffyn ei theitl WBO pwysau welter.
Fe fydd y frwydr nos Sadwrn yn cael ei darlledu yn fyw ar y BBC Two o 20.00 ymlaen nos Sadwrn.