Brechu plant ‘y peth synhwyrol i’w wneud’

Newyddion S4C 04/09/2021

Brechu plant ‘y peth synhwyrol i’w wneud’

Brechu plant iach 12 i 15 oed yw “y peth synhwyrol i’w wneud”, yn ôl Llefarydd Iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.

Yn siarad gyda rhaglen Newyddion S4C, fe ddywedodd yr Aelod Seneddol dros Ynys Môn nad yw’n credu y byddai ymestyn y rhaglen frechu “yn mynd yn erbyn y JCVI” a bod “materion ehangach angen eu hystyried”.

Daw ei sylwadau ar ôl i’r Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio gynghori i beidio â brechu plant iach rhwng 12 ac 15 oed.

Yn ôl y llywodraeth, fe fydd Prif Swyddog Meddygol Cymru yn darparu “canllawiau cyn gynted â phosibl ar y manteision clinigol a’r manteision iechyd ehangach sy’n gysylltiedig â brechu’r grŵp oedran”.

Dywedodd Mr ap Iorwerth: “Dwi’n meddwl mai adeiladu ar benderfyniad y JCVI fyddai llywodraethau pe bai nhw’n symud ymlaen tuag at frechu ar draws y boblogaeth dros 12 oed. A dwi’n teimlo fel na dyna’r peth synhwyrol i’w wneud, er nad ydi o’n benderfyniad hawdd iawn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.