Y Cymro Aled Davies yn bencampwr Paralympaidd unwaith eto
Mae'r Cymro Aled Davies wedi llwyddo i amddiffyn ei deitl a chipio'r fedal aur yn y Gemau Paralympaidd yn Tokyo.
Roedd Davies yn cystadlu ddydd Sadwrn yng nghystadleuaeth F63 taflu pwysau.
Dyma'r drydedd fedal aur i'r athletwr o Ben-y-bont ar Ogwr ei hennill yn y Gemau Paralympaidd, ar ôl iddo ddod i'r brig yn Rio ac yn Llundain.
Yn siarad gyda Channel 4 wedi'r fuddugoliaeth, fe ddywedodd Davies: "Pencampwr Paralympaidd deirgwaith - mae mor swreal nawr. Mae wedi bod yn bum mlynedd hir. Mae pawb wedi bod drwyddo. Rydw i wedi parhau i weithio'n galed.
"I gyrraedd y sefyllfa hon lle gallaf gael, yn dechnegol, diwrnod gwael, a dal i ennill yr aur - dwi mor hapus. Mae'n dasg mor anodd ennill medal yn y gemau hyn. Dwi mor falch o'n tîm. Maen nhw wedi bod yn rhyfeddol.
"Pum mlynedd o waith caled, y dyddiau tywyll hynny, y dyddiau hynny pan nad ydych chi eisiau codi. Dwi mor hapus y gallwn arwain trwy esiampl a pharhau i wneud yr hyn dwi'n ei wneud. Dwi'n teimlo'n freintiedig i fod yn rhan o'r tîm yma."
'Profiad gwahanol'
Yn siarad cyn y gystadleuaeth, roedd Davies yn dweud ei fod wedi bod yn “anodd iawn i annog” ei hun cyn y gemau.
Ychwanegodd fod yr ansicrwydd ynghylch y gemau Paralympaidd yn gwneud hyfforddi yn anodd, gan ddisgrifio’r sefyllfa fel “hunllef”.
“Pan aethon ni dan glo, i ddechrau, roedd Tokyo yn dal i fynd ymlaen a fy meddwl ar unwaith oedd, ‘sut mae paratoi i gystadlu am fedal aur ymhen ychydig fisoedd yn fy ngardd gefn?’
“Yn ffodus, roeddwn i’n gallu troi’r garej yn gampfa ac fe wnes i adeiladu cylch taflu a rhoi ychydig o ddur gyda rhwyd rhwng fy nghoeden afal a gellyg, a thaflu mewn i hynny.
“Roedd yn brofiad gwahanol iawn, ond ar yr un pryd roedd yn adeiladu cymeriad ac roedd rhaid i mi addasu i’r her - roeddwn i wrth fy modd.”
Er gwaethaf yr heriau, mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur i Davies, a ddaeth yn dad i ferch fach newydd ychydig cyn y cyfnod clo.
Mae hefyd yn un o sêr cyfres newydd o Celebrity SAS: Who Dares Wins Channel 4.