Pedwar sydd heb ennill cap yng ngharfan Cymru yn erbyn Albania

Rhian Wilkinson

Mae Rhian Wilkinson wedi enwi pedwar chwaraewr sydd heb ennill cap yn ei charfan i wynebu Albania yn yr ymgyrch ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd Menywod FIFA 2027.

Fe fydd Cymru’n ceisio manteisio ar y dechreuad addawol i’w hymgyrch hyd yn hyn.

Fe fydd Cymru’n wynebu Albania ar y Cae Ras yn Wrecsam ar 14 Ebrill ac yna i ffwrdd ar 18 Ebrill.

Daw hyn ar ôl gêm gyfartal 2-2 oddi cartref yn erbyn Czechia ac yna buddugoliaeth o 6-1 yn erbyn Montenegro yn Llanelli.

Mae'r golwr Lucy Farrell-Shrouder yn y garfan am y tro cyntaf oherwydd anaf i Olivia Clark.

Mae Poppy Soper, Annie Wilding a Phoebie Pool wedi bod yn rhan o'r garfan o'r blaen a gallen nhw ennill eu capiau cyntaf.

Dyma’r tro cyntaf i’r ddau dîm wynebu ei gilydd. 

Mae Cymru’n dychwelyd i’r Cae Ras ar ôl chwarae yno ym mis Chwefror y llynedd mewn gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Sweden o flaen torf o fwy na 6,000.

Nid oes modd i Gymru gyrraedd Cwpan y Byd ym Mrasil yn awtomatig. 

Fe fydd yn rhaid iddyn nhw sicrhau perfformiadau cryf yn eu grŵp a cheisio cymhwyso trwy'r gemau ail gyfle.

Carfan Cymru: Lucy FARRELL-SHROUDER (Stoke City –ar fenthyg o Burnley), Safia MIDDLETON-PATEL (Manchester United), Poppy SOPER (Rugby Borough), Hannah CAIN (Leicester City), Mayzee DAVIES (Manchester City), Charlie ESTCOURT (Portsmouth), Gemma EVANS (Lerpwl), Mared GRIFFITHS (Sunderland – ar fenthyg o  Manchester United), Ceri HOLLAND (Lerpwl), Elise HUGHES (Crystal PALACE), Sophie INGLE (Bristol City), Angharad JAMES (Seattle Reign), Lois JOEL (Newcastle United), Carrie JONES (IFK Norrköping), Hayley LADD (Crystal Palace), Esther MORGAN (Bristol City), Ffion MORGAN (West Ham United), Phoebie POOLE (Plymouth Argyle), Ella POWELL (Bristol City), Rhiannon ROBERTS (Sunderland), Mia ROSS (Charlton Athletic), Rachel ROWE (Nottingham Forest), Tianna TEISAR (Plymouth Argyle – ar fenthyg o Bristol City), Annie WILDING (Portsmouth), Lily WOODHAM (Lerpwl).

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.