Aelodau o'r Teulu Brenhinol yn Llanelwy ar gyfer seremoni Dydd Iau Cablyd

Y Brenin a'r Frenhines

Bydd y Brenin a'r Frenhines yn cymryd rhan mewn gwasanaeth arbennig ar Ddyd Iau Cablyd yng Nghadeirlan Llanelwy ddydd Iau.

Mae Dydd Iau Cablyd Brenhinol yn wasanaeth crefyddol yn Eglwys Loegr sydd yn cael ei gynnal ar y diwrnod cyn Dydd Gwener y Groglith. 

Yn y gwasanaeth, mae swyddog brenhinol yn dosbarthu darnau bach o arian o'r enw arian Cablyd fel elusen symbolaidd i rai o bobl yr ardal.

Dyma'r tro cyntaf i'r achlysur gael ei gynnal yng Ngogledd Cymru, a dim ond yr ail dro erioed yng Nghymru, ers ei sefydlu 800 mlynedd yn ôl.

Ond nid pawb sy'n edrych ymlaen at y digwyddiad, gyda graffiti 'Not Our King' wedi ymddangos ar wal ger y Gadeirlan ychydig oriau cyn yr ymweliad.

Yn ystod y gwasanaeth, bydd y Brenin yn cyflwyno rhoddion y Cablyd Brenhinol i tua 77 o ddynion a 77 o fenywod, yn bennaf o Gymru ond hefyd o esgobaethau ledled y DU. 

Mae Arian y Cablyd yn rhodd symbolaidd sydd yn cael ei roi i gydnabod gwasanaeth Cristnogol y derbynwyr ac am eu gwaith yn eu cymunedau lleol. 

Bydd y gwasanaeth eleni yn cynnwys cerddoriaeth a gomisiynwyd yn arbennig gan gyfansoddwyr a cherddorion Cymreig, gan ddathlu dychweliad y Cablyd Brenhinol i Gymru. 

Yn ogystal, bydd y gwasanaeth yn gweld defnydd o Groes Cymru yn yr orymdaith, rhodd gan Ei Fawrhydi y Brenin i Gristnogion Cymru. 

Bydd Stryd Fawr Llanelwy ar gau rhwng 06:00 a 14:00 yn ystod y dydd, gyda'r cyngor yn cyfeirio pobl i osgoi'r ardal neu i ddefnyddio ffordd y B5381 Ffordd Isaf Dinbych a’r A525 Ffordd Uchaf Dinbych.

Dau bwrs

Bydd Ei Fawrhydi yn cyflwyno dau bwrs i’r derbynwyr, yn cynnwys yr Arian Cablyd unigryw. 

Yn y pwrs gwyn bydd set o ddarnau arian Cablyd, sef arian wedi’u bathu’n arbennig, yn gyfanswm o 77 ceiniog, i gyfateb i oedran y Brenin, ac yn y pwrs coch bydd darn arian £5 i goffáu 100 mlynedd ers geni’r Frenhines Elizabeth II, a darn 50c sy’n dathlu 50 mlynedd ers sefydlu Ymddiriedolaeth y Brenin.

Dywedodd Deon Eglwys Cadeirlan Llanelwy, y Tra Pharchedig Nigel Williams: "Rydym yn hynod falch o gael cynnal y Gwasanaeth y Cablyd hwn. Mae staff yr Eglwys Cadeirlan, y gwirfoddolwyr a’r gynulleidfa yn gweithio’n galed i sicrhau bod yr achlysur yn brofiad cofiadwy i’r holl dderbynwyr a’r gwesteion. 

"Edrychwn ymlaen at groesawu Eu Mawrhydi, y Brenin a’r Frenhines, i’r ddinas ar gyfer y gwasanaeth arbennig hwn."

Dywedodd Esgob Llanelwy, y Gwir Barchedig Gregory Cameron: "Mae’r Cablyd Brenhinol yn anrhydeddu gorchymyn Crist y dylem wasanaethu ein gilydd. 

"Mae hyn yn cael ei fynegi yn y rhoddion y bydd y Brenin yn eu rhoi i’r 154 o bobl sydd wedi gwasanaethu eu cymunedau oherwydd eu ffydd Gristnogol. Mae’n achlysur hynod ystyrlon yr ydym yn falch o’i groesawu i Lanelwy."

Ychwanegodd y Parchedicaf Fwyaf Cherry Vann, Archesgob Cymru: "Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn bresennol ochr yn ochr â’r menywod a’r dynion a fydd yn derbyn darnau arian Cablyd eleni, ac i’w gweld yn cael eu hanrhydeddu yn y modd hwn am eu gwasanaeth i’r eglwys a’u cymunedau. 

"Mae cael y gwasanaeth hwn yng Nghymru yn destun llawenydd mawr a bydd yn sicr yn brofiad cofiadwy i bawb sy’n cymryd rhan."

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.