Epstein: Erlynwyr yn rhoi 'cyngor ymchwiliadol' i'r heddlu

Andrew, Epstein a Mandelson

Cyhoeddodd Gwasanaeth Erlyn y Goron eu bod yn "darparu cyngor ymchwiliadol cynnar" i'r heddlu wrth iddyn nhw gynnal ymchwiliad i berthynas yr Arglwydd Peter Mandelson ac Andrew Mountbatten-Windsor â'r troseddwr rhyw Jeffrey Epstein.

Cafodd y cyn-dywysog Andrew a chyn lysgennad y DU yn America eu harestio fis diwethaf ar amheuaeth o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus, yn sgil eu perthynas ag Epstein.  

Cafodd y ddau eu rhyddhau o dan ymchwiliad yn ddiweddarach.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasaeth Erlyn y Goron ddydd Mercher:  “Gallwn gadarnhau ein bod yn darparu cyngor ymchwiliadol cynnar i Heddlu'r Met yn ymwneud ag ymchwiliad y llu i ddyn 72 oed, a byddwn yn parhau i gydlynu yn unol â'r cais.”

“Gallwn hefyd gadarnhau ein bod yn darparu cyngor ymchwiliadol cynnar i Heddlu Dyffryn Tafwys mewn cysylltiad â dyn 66 oed. 

“Rydym yn dal i fod yn barod i gefnogi unrhyw ymchwiliad os oes angen hynny.”

Daw'r cyhoeddiad ar ôl cadarnhad y bydd taith swyddogol y Brenin Charles i America i ymweld â Donald Trump yn digwydd fis nesaf fel y trefniant gwreiddiol. 

Bydd taith hanesyddol Charles a'r Frenhines Camilla yn digwydd ddiwedd Ebrill er gwaethaf galwadau i'w gohirio neu ei chanslo oherwydd y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol. 

Y gred yw na fydd Charles a Camilla yn medru cwrdd â dioddefwyr tra bod yr heddlu yn y Deyrnas Unedig yn cynnal ymchwiliad i faterion yn ymwneud ag Epstein.  

Ddydd Llun, ysgrifennodd aelod o'r gyngres yn America, Ro Khanna at y Brenin yn galw arno i gwrdd â'r dioddefwyr yn breifat yn ystod ei daith.  

Mewn datganiad i raglen Newsnight y BBC nos Fawrth, dywdeodd teulu Virginia Giuffre eu bod nhw yn annog y Brenin yn "gryf" i gyfarfod â nhw, yn ogystal â goroeswyr Jeffrey Epstein.   

Bu farw Virginia Giuffre yn 41 oed fis Ebrill 2025 ar ôl honni iddi gael ei cham-drin yn rhywiol gan y cyn-Dywysog Andrew, brawd y Brenin. 

Mae Andrew Mountbatten-Windsor yn gwadu hynny.  

Mewn cynhadledd newyddion ddydd Mercher, gwrthododd Syr Keir Starmer wneud sylw pan ofynnodd newyddiadurwyr iddo a ddylai'r Brenin gwrdd â dioddefwyr Epstein.  

Mynnodd Prif Weinidog y DU mai canolbwynt y daith fydd dathliadau 250 annibyniaeth America.  

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.