Cyfres newydd Anfamol yn cynnig 'stori nad sydd ar ein sgriniau'

Anfamol

Mae cyfres newydd o'r ddrama deledu Anfamol yn "cynnig stori nad sydd ar ein sgriniau", yn ôl un o'i chymeriadau.

Bydd y gyfres yn ail-gydio yn nhaith y prif gymeriad Ani, neu Anwen Davies, wrth iddi drio darganfod y cydbwysedd rhwng magu plentyn ar ei phen ei hun, gyrfa broffesiynol fel cyfreithwraig a’i bywyd personol.

Yn ystod y gyfres gyntaf, fe wnaeth Ani, sy'n cael ei phortreadu gan Bethan Ellis-Owen, benderfynu cael plentyn ar ei phen ei hun drwy ddefnyddio banc sberm. 

Mae Llywelyn ei mab bellach yn 18 mis oed, gydag Ani wedi penderfynu ei bod yn barod i ddod o hyd i gariad.

Dywedodd Bethan bod ei chymeriad yn wynebu nifer o heriau newydd yn yr ail gyfres.

"Mae’r trywydd mae hi wedi mynd â ni y gyfres yn grêt dwi’n meddwl, mae’r cymeriad yn gorfod cwestiynu ei hun, mae pethau o’r gorffennol yn codi," meddai.

"Mae’r gyfres hon yn fwy amdani hi a’i theimladau hi... mae hi’n gorfod edrych ar y pethau mae hi wedi eu claddu o’r gorffennol a delio hefo nhw. Mae bach mwy o hiwmor yn y gyfres hon. Mae’r hiwmor yn dod yn fwy o’r cymeriadau eraill fel Rhydian a Nia."

Cymeriad newydd sydd yn ymuno gyda'r ddrama ydi Alex, hen ffrind coleg i Ani sy'n cymhlethu ei bywyd a'i hemosiynau.

Dywedodd Heledd Gwynn, sy'n portreadu Alex, bod Anfamol yn "cynnig stori nad sydd ar ein sgriniau" ar hyn o bryd.

"Mae e mor neis cael gwneud rhywbeth ysgafn – sydd ddim heb ei emosiwn na’i wirionedd, mae i gyd wedi’i osod ar wirionedd anodd – ond mae hyn yn adlewyrchu bywyd," meddai.

"Dwi’n hoff o’r elfennau swreal, mae’n rhywbeth eithaf prin i ddilyn llinyn stori sydd yn mynd â ti i rhywle doeddet ti ddim yn ei ddisgwyl o gwbwl. 

"Mae Anfamol yn cynnig stori nad sydd ar ein sgriniau, mae’n traco bywyd messy, secsi, brwnt, emosiynol, raw – ti ishe mynd ar y siwrne gydag Ani – mae’n twymo dy galon ar yr un pryd a gwneud ti i chwerthin a llefain ar yr un pryd."

'Cynrychiolaeth bositif o stori gariad cwiar'

Y dramodydd Rhiannon Boyle sydd wedi ysgrifennu’r ail gyfres yn dilyn ei llwyddiant gyda'r gyfres gyntaf.

"Mae’r ansawdd cyffredinol wedi codi – o’n i isho fo deimlo mwy fatha drama," meddai.

"Pan mae Ani yn rhoi looks to camera dan ni gyd yno hefo hi, dan ni gyd yn gallu uniaethu hefo hi."

Dywedodd Branwen Williams, Uwch-gynhyrchydd BBC Studios, y cwmni sydd wedi cynhyrchu'r gyfres: "Mae Anfamol 2 yn fwy na chyfres deledu; mae’n ddathliad bywiog o gariad, hunaniaeth a dewrder i adrodd straeon gonest a thriw.

"Yn yr ail gyfres, ein bwriad yw i ddangos cynrychiolaeth bositif o stori gariad cwiar ac yn arbennig portread o ddeurywioldeb – agwedd ar brofiad LHDTQ+ nad yw’n aml yn cael ei chynrychioli yn y cyfryngau yng Nghymru, ac yn enwedig yn y Gymraeg."

Bydd y gyfres gyfan ar gael i’w gwylio yn ei chyfanrwydd o 5 Ebrill.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.