Caerdydd: Teyrnged i 'gerddor dawnus' 16 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad
Mae teulu dyn ifanc a fu farw mewn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Miracle Oladoyinbo, 16 oed, mewn gwrthdrawiad ar Heol Penarth wrth gyffordd Heol Clare yn Grangetown ddydd Mercher.
Roedd ar gefn beic ar y pryd cyn y gwrthdrawiad gyda cherbyd SsangYong Tivoli.
Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei deulu: “Roedd Miracle Oladoyinbo yn ffagl o lawenydd a thrugaredd, yn fachgen 16 oed y diffiniwyd ei fywyd gan gariad dwfn at Dduw ac ymrwymiad i'w ffydd.
"Yn gerddor dawnus, nid dim ond chwarae cerddoriaeth a wnaeth; defnyddiodd ei dalentau i godi calon a dod â chysur i bawb o'i gwmpas.
"Roedd adnabod Miracle yn golygu cael eich cyffwrdd gan ei gynhesrwydd a'i ysbrydoli gan ei ras. Er bod ei fywyd wedi'i dorri'n drasig o fyr, bydd alaw ei galon garedig yn atseinio am byth yng nghalonnau'r teulu a'r gymuned a oedd yn ei garu mor annwyl.”
Mae swyddogion sy'n ymchwilio i'r digwyddiad yn parhau i apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad i gysylltu gyda nhw.
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu drwy ffonio 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2600092224.