Scott Mills wedi cael ei holi gan yr heddlu am droseddau rhyw honedig yn 2018
Fe gafodd Scott Mills ei gwestiynu am honiadau o droseddau rhyw yn erbyn bachgen yn 2018, ond fe gafodd yr achos ei ollwng yn ddiweddarach yn sgil diffyg tystiolaeth, yn ôl datganiad gan yr heddlu.
Dywedodd Heddlu'r Met wrth wasanaeth newydd y BBC fod dyn, a oeddyn ei 40au ar y pryd, wedi wynebu ymchwiliad yn sgil honiadau a ddigwyddodd yn honedig rhwng 1997 a 2000.
Yn ôl y Mirror, fe gafodd yr achos ei ollwng yn 2019 ar ôl i Wasanaeth Erlyn y Gorlon ddatgan nad oedd digon o dystiolaeth i ddwyn cyhuddiadau.
Cafodd y seren BBC Radio 2 ei ddiswyddo gan y BBC ar ôl honiadau am ei ymddygiad personol ddydd Llun.
Dywedodd y BBC nad oedden nhw am “wneud sylw ar faterion sy’n ymwneud ag unigolion” ond eu bod nhw’n gallu “cadarnhau” ei fod “wedi gadael y BBC”.
Daeth ei raglen i ben am 09:30 ar ddydd Mawrth 24 Mawrth gyda’r neges: “Nôl yfory.”
Y bore wedyn dechreuodd Gary Davies y sioe gan ddweud ei fod yn “cadw sedd Scott Mills”.
Ymunodd Mills, 53, ag arlwy BBC Radio 2 yn ystod yr wythnos yn 2022 pan gymerodd le Steve Wright fel cyflwynydd y prynhawn.
Cyn BBC Radio 2, bu’n gweithio ar BBC Radio 1 ers 1998, a bu hefyd yn cyflwyno rhaglen benwythnos ar BBC Radio 5 Live.
Yn ôl adroddiad blynyddol diweddaraf y darlledwr, roedd Mills yn ennill rhwng £355,000 a £359,999 y flwyddyn.
Dywedodd Heddlu'r Met wrth BBC News: "Ym mis Rhagfyr 2016, fe ddechreuodd y Met ymchwiliad wedi atgyfeiriad gan lu heddlu arall.
"Roedd yr ymchwiliad yn ymwneud â honiadau o droseddau rhyw difrifol yn erbyn bachgen. Fe ddigwyddodd y rhain yn honedig rhwng 1997 a 2000.
"Fel rhan o'r ymholiadau, fe gafodd dyn a oedd yn ei 40au ar adeg y cyfweliad, ei holi dan rybudd gan yr heddlu ym mis Gorffennaf 2018."
Ychwanegodd y llu fod ffeil lawn o dystiolaeth wedi cael ei chyflwyno i Wasanaeth Erlyn y Goron, a benderfynodd nad oedd y trothwy o ran y dystiolaeth wedi'i gyrraedd i ddwyn cyhuddiadau.
"Yn dilyn y cyngor hwn, fe wnaeth yr ymchwiliad gau ym mis Mai 2019," meddai'r llu.
Llun Scott Mills gan Jonathan Brady / PA.