Keir Starmer i gadeirio cyfarfod Cobra i drafod effaith economaidd rhyfel Iran
Bydd Syr Keir Starmer yn cadeirio cyfarfod Cobra brynhawn dydd Mawrth er mwyn trafod effaith economaidd rhyfel Iran.
Dywedodd y Prif Weinidog ddydd Llun y bydd cyfarfod Cobra yn edrych ar “wneud yn siŵr bod popeth sydd angen bod yn ei le yn ei le, a bod popeth yn cael ei fonitro a'i archwilio'n iawn”.
Daw hyn ar ôl i Syr Keir ddweud wrth arweinwyr busnes yn Stryd Downing ddydd Llun fod yn rhaid i ddelio ag effaith y rhyfel fod yn “ymdrech ar y cyd”.
Dywedodd na all y Llywodraeth “wneud hyn ar ei phen ei hun”.
Cafodd penaethiaid cwmnïau ynni, llongau a banciau eu gwahodd i Rif 10 i drafod blocâd Iran ar Gulfor Hormuz.
Mae’r argyfwng wedi gwthio prisiau i fyny ac wedi achosi ansicrwydd economaidd ledled y byd.
Dywedodd Keir Starmer wrth gynrychiolwyr o gwmnïau gan gynnwys Shell a BP, y cwmni llongau mawr Maersk, arbenigwr yswiriant morol Lloyd’s of London, a banciau HSBC a Goldman Sachs fod y Llywodraeth yn gweithio ar “gynllun ymarferol” ar gyfer Culfor Hormuz.
Wrth sôn am ddelio ag effaith economaidd yr argyfwng, dywedodd Syr Keir: “Na all y Llywodraeth wneud hyn ar ei phen ei hun. Na allwch chithau wneud hyn ar eich pen eich hun.
“Bydd rhaid i ni weithio gyda’n gilydd ar hyn.”
‘Nid ein rhyfel ni’
Yn y cyfamser, mae’r Canghellor Rachel Reeves wedi cyfarfod â gweinidogion cyllid ac ynni’r G7 ddydd Llun i ystyried ffyrdd o ymateb i effaith economaidd yr argyfwng yn y Dwyrain Canol.
Wrth ysgrifennu ar X ar ôl y cyfarfod, dywedodd Ms Reeves: “Wrth gymryd rhan yn sgyrsiau’r G7 heddiw ar y cyd gydag Andrew Bailey o Fanc Lloegr ac Ed Miliband, fe wnes i ailadrodd yr angen am ddatrysiad cyflym yn y Dwyrain Canol.
“Nid ein rhyfel ni yw hwn ac ni fyddwn ni’n cael ein tynnu i mewn iddo, ond mae ei effaith economaidd yn fyd-eang – mae’n rhaid i ni weithio gyda phartneriaid i gryfhau gwytnwch.”
Yn y cyfamser, mae Arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump wedi bygwth dinistrio seilwaith ynni Iran, ac o bosibl ei ffatrïoedd sy’n tynnu halen o ddŵr, oni bai bod Culfor Hormuz yn ail-agor.
Mae’r Prif Weinidog wedi galw am dawelu’r sefyllfa yn y Dwyrain Canol, ond mae Mr Trump wedi anfon miloedd o filwyr ychwanegol yr Unol Daleithiau gan fygwth cipio Ynys Kharg yn Iran, sy’n gyfleuster pwysig ar gyfer allforio olew.
Cododd pris olew fwy na 3% i 117 o ddoleri y gasgen ar un adeg yng nghanol masnachu bore dydd Llun, gan gyrraedd lefelau na welwyd ers 2022.
Llun: Keir Starmer yn 10 Stryd Downing Ddydd Llun.