Trump yn barod i 'gymryd holl olew' Iran

Trump

Mae Arlywydd America wedi dweud y gallai "gymryd yr holl olew yn Iran" ac y byddai'n bosibl iddo gipio un o brif ganolfan tanwydd y wlad ar Ynys Kharg.

Mae Donald Trump wedi dweud wrth bapur newydd y Financial Times y gallai lluoedd America gipio'r ynys yn "hawdd", gan ychwanegu y gellid cyrraedd cytundeb heddwch yn "eithaf cyflym."

Mae Trump hefyd yn dweud fod America wedi llwyddo i daro "llawer o dargedau a geisiwyd eu taro ers amser maith" yn Iran ddydd Sul - tra bod Israel yn dweud eu bod wedi cynnal ymosodiadau o'r newydd ar brifddinas Iran, Tehran.

Yn gynharach, dywedodd llefarydd ar ran senedd Iran fod lluoedd y wlad yn "barod" i weld milwyr Americanaidd yn cyrraedd a cheisio troedio ar dir y wlad, a'u bod yn barod i "daflu tân arnynt".

Yn y cyfamser, mae pris olew wedi codi dros $115 y gasgen, ac mae rhybudd arall y bydd prisiau bwyd yn codi wrth i wrtaith ddod yn anoddach i'w allforio.

Yn ôl yn Llundain, mae disgwyl i'r Prif Weinidog Keir Starmer gynnal cyfarfod gydag arweinwyr busnes yn Downing Street i drafod effaith y rhyfel.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.