Gêm bêl-droed elusennol i gefnogi taith mam sy'n cael triniaeth am ganser y fron
Gêm bêl-droed elusennol i gefnogi taith mam sy'n cael triniaeth am ganser y fron
Mae gêm bêl-droed elusennol wedi ei threfnu i godi arian i wardiau canser ble mae athrawes o Landudno wedi bod yn derbyn triniaeth ar gyfer canser y fron.
Cafodd Lisa Eardley, sy’n 37 oed ac yn fam i un, ddiagnosis o ganser y fron gradd tri ym mis Awst y llynedd.
Dywedodd wrth Newyddion S4C bod y diagnosis wedi bod yn “sioc fawr” iddi hi a’i theulu.
“O'n i'n sicr yn fy meddwl i bod - o'n i'n 35, that doesn't happen to a 35-year-old.
“So wnaethon ni fynd i'r ysbyty...ag oedd o fatha bomb ‘di mynd off. Dwi'n cofio'r peth cyntaf neshi ddweud oedd, ‘be dwi'n mynd i neud? Di Iori methu cael mam rŵan. Di Iori methu colli mam.’.. that's like your first instinct.
“Ma rhywun yn deud y gair cancr a da chi jyst yn mynd, world's gone.”
Cafodd Lisa driniaeth ar unwaith, gyda thriniaeth cemotherapi yn cychwyn yn Ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd ym mis Medi.
Cafodd lawdriniaeth mastectomi i dynnu'r fron, ac fe fydd yn cychwyn ar gyfnod o radiotherapi yng nghanolfan ganser Maggie's yn Ysbyty Glan Clwyd fis nesaf.
Ychwanegodd Lisa, sydd yn ddirprwy bennaeth yn Ysgol Deganwy: “Da’ ni reit yn ei chanol hi ar hyn o bryd.
“Da ni'n lwcus i ryw raddau, mae o'n very positive prognosis yn symud ymlaen. Maen nhw'n dweud this is a curative treatment.”
Wrth adlewyrchu ar y cyfnod, dywedodd ei gŵr, Sean: “Mae’n teimlo fel saith blwyddyn, dim saith mis.”
‘Gwneud rhywbeth positif’
Pan glywodd ffrind i’r teulu, Mike Pearson, am ei thriniaeth, “Roedd o’n gofyn, ‘sut fedran ni helpu? Sut fedran i wneud rhywbeth?” medd Lisa.
Yn un o ffrindiau gorau i ŵr Lisa, Sean Eardley, penderfynodd Mike y byddai’n defnyddio ei gysylltiadau yn y byd pêl-droed naill ochr i’r ffin er mwyn trefnu digwyddiad elusennol arbennig.
Mae Sean yn wyneb cyfarwydd i gefnogwyr pêl-droed gogledd Cymru, fel cyn-reolwr glybiau Llandudno a Chaernarfon, tra ei fod ar hyn o bryd yn is-reolwr ar CPD Dinas Bangor 1876.
Mae Mike yn gyn-chwaraewr proffesiynol ac wedi cynrychioli nifer o glybiau’r gogledd, gan gynnwys Cei Connah, Caernarfon, Llandudno ac Airbus UK. Nawr, mae’n chwaraewr a hyfforddwr dros CPD Tref Dinbych.
Dywedodd Mike Pearson: “Yn y pen draw, da chi eisiau trio helpu a chefnogi'r bobl sy'n agos i chi. Ac mae pêl-droed yn ffordd wych o wneud hynny.
"Dwi'n meddwl, gyda phrofiad Sean o fod yn chwaraewr ac yna rheolwr, yn. enwedig yng Nghymru, mae pêl-droed yn ffordd hawdd o ddod a phobl at ei gilydd a chodi ymwybyddiaeth."
Fel rhan o ddiwrnod o hwyl i’r teulu ar Ddydd Sul 26 Ebrill, fe fydd tîm XI Sean Eardley, sydd yn cynnwys chwaraewyr y mae wedi’u rheoli dros y blynyddoedd, yn herio tîm XI Oldham Athletic – y clwb ble roedd Mike a Sean wedi cwrdd fel chwaraewyr ifanc.
Gofal amazing
Fe fydd yr arian a godwyd o’r diwrnod yn cael ei rannu rhwng dwy elusen sy’n agos i galonnau Lisa a Sean - Ward Alaw a Chanolfan Maggie's.
“'Swn i byth yn gallu diolch digon am y gofal dwi wedi cael. Byth, byth yn gallu diolch digon,” meddai Lisa.
“Alaw dwi wedi gweld mwya hyd hyn, a ma' nhw jyst yn bobl amazing. Out of this world. A wedyn 'da ni'n cychwyn efo delio efo Glan Clwyd, a ma' nhw yr un peth. Mor positif, mor gyfeillgar.
“Neshi gael bach o breakdown yn chemo diwethaf fi, o'n i jyst di cael digon. O'n i jyst mewn lle drwg. As you do, we all have bad days anyway, dydan?
“Ag on i ddim yn hapus, ac oeddan nhw jyst mor human, os di huna'n ‘neud sense?”
'Isho dweud diolch'
Ychwanegodd Sean: “Mae'n ofnadwy o drist i weld y ward yna'n mor brysur, a dwi'n cael y sgwrs hefo pobl yn aml - mae o fel revolving door, ac mae hynny'n dorcalonnus.
"Ond bob tro dwi 'di bod yna, yr argraff dwi'n cael ydi mai Lisa ydi'r unig glaf maen nhw'n trin. Mae ganddyn nhw'r sgil o allu gwneud i ti deimlo mai ti ydi'r unig berson yna. Dwi'n llawn edmygedd tuag atyn nhw ac os ydyn ni'n siarad am arwyr, maen nhw wir yn arwyr."
Wrth edrych ymlaen at y gêm, ychwanegodd Lisa: “Dan ni isho deud diolch am y gofal da ni di cael a hefyd trio pobol eraill sydd yn yr un sefyllfa.
“Da ni’n teimlo’n gryf bod ni ‘di bod yn andros o lwcus, di cael y gofal da ni ‘di cael, a hefo'r support network sydd gynnon ni o'n cwmpas ni. Dyna beth sydd wedi gwneud o'n hawdd i fynd a codi bob bore a cario ymlaen.
“A dwi'n meddwl os da ni'n gallu neud rhywbeth i helpu pobl eraill yn yr un sefyllfa, mae hwnna'n rhywbeth da ni'n teimlo'n gryf amdano fo.”
Bydd y gêm a'r gweithgareddau i'r teulu yn cael eu cynnal yn Stadiwm Go Goodwins, CPD Llandudno, am 14.00 ar Ddydd Sul 26 Ebrill.