Diwedd cyfnod i gapten cwch y Daffodil ym Mae Caerdydd

ITV Cymru
Ben Salter

Wedi 25 mlynedd fe fydd cyfnod Ben Salter fel capten cwch y Daffodil ym Mae Caerdydd yn dod i ben.

Ers Ebrill 2000, mae Mr Salter, sydd yn cael ei adnabod fel Capten Gorgeous gan deithwyr, wedi tywys ymwelwyr i'r ddinas ar y cwch ym Mae Caerdydd.

Ond ddydd Sul fydd ei ddiwrnod olaf cyn rhoi'r gorau iddi.

Dywedodd Mr Salter fod sawl uchafbwynt wedi bod ar hyd y blynyddoedd.

"Dwi wedi bod lawr y bae am dros 25 o flynyddoedd ac wedi cludo tua 250,000 o bobl - sydd yn eithaf tipyn am gwch bach," meddai wrth ITV Cymru.

"Pan ddechreuais i doedd dim Senedd, dim Canolfan y Mileniwm ac roedd y morglawdd yn dywod yn unig.

"Mae llawer o bobl enwog wedi bod ar y cwch, fel Ant a Dec. Hefyd mae sawl criw teledu wedi bod yma.

"Ond yr uchelgais erioed oedd bod ar Doctor Who, ac fe wnaethom ni hynny gyda Daffodil ar y rhaglen - roedd yn llawer o hwyl."

Image
Ben Salter yn ystod blynyddoedd cynnar y cwch
Ben Salter yn ystod blynyddoedd cynnar ei waith

Mae cwch y Daffodil yn gallu cludo 11 o deithwyr ar y tro, ac mae Ben wedi bod yn gweithio mwy neu lai pob dydd ers iddo gychwyn.

Er bod Ben yn rhoi'r gorau iddi, fe fydd y Daffodil yn parhau i deithio ar hyd tonnau Bae Caerdydd.

Mae cwmni Bay Island Voyages wedi prynu’r busnes, ac fe fydd y cwch yn rhan o'u teithiau nhw.

"Mae 25 mlynedd o deithio rownd y bae yn amser hir," meddai Ben.

"A gyda'r tywydd, pan mae'r haul yn disgleirio dwi allan ac mae fy ngwraig druan yn gweddïo am law fel bod ni'n gallu treulio mwy o amser gyda'n gilydd.

"Felly mae'n hwyl fawr gen i a hwyl fawr gan Daffodil."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.