Teithio i Awstralia i dreulio pythefnos yn cyfnewid diwylliant gyda menywod yr Arrernte

Natalie Jones

Bydd grŵp o fenywod o Gymru yn teithio i Awstralia i dreulio pythefnos yn cyfnewid diwylliant gyda menywod yr Arrernte.

Yr wythnos nesaf bydd wyth o fenywod sy'n gweithio ym myd y celfyddydau yng Nghymru yn hedfan i Melbourne, cyn symud ymlaen i dref anghysbell Alice Springs, neu Mparntwe, yn Nhiriogaeth Ogleddol Awstralia. 

Mae Alice Springs wedi'i lleoli hanner ffordd rhwng dinasoedd Darwin ac Adelaide, ac yn adnabyddus am ei phridd coch a'i thirwedd greigiog.

Yn byw yn yr ardal ers degau o filoedd o flynyddoedd mae pobl yr Arrernte, sef un o'r diwylliannau hynaf yn y byd.

Mae'r awdures a'r athrawes Natalie Jones, 49 oed, o Sanclêr yn Sir Gâr, yn mynd ar y daith ac yn awyddus i ddysgu mwy am eu diwylliant.

"Maen nhw wedi wynebu gymaint o hiliaeth ac anfantais yn Awstralia, ond maen nhw rhywsut dal wedi cario ymlaen efo pethau traddodiadol, yn enwedig celf," meddai wrth Newyddion S4C.

"A dwi jyst yn meddwl mae’n atgoffa ni o diwylliant Cymru lle mae ‘na gymaint o heriau wedi bod yn erbyn yr iaith, ond ‘da ni dal wedi cadw'r iaith i fynd drwy ddweud straeon, trwy dawnsio a chanu - dyna be’ ydi o, ‘dan ni’n gweld nhw yn ein hunain."

Mae'r daith yn cael ei hariannu gan raglen Llywodraeth Cymru, Taith, sy'n rhoi cyfleoedd i bobl o Gymru brofi bywyd mewn gwledydd eraill.

Mae'r cynllun wedi cael ei ymestyn tan 2028 bellach, ond bydd gwaith y cynllun yn dod i ben ym mis Awst 2027.

Fel awdures y llyfr 20 o Bobl Liwgar Cymru, sy'n cyflwyno rhai o bobl Ddu ac Asiaidd Cymru i blant, mae Ms Jones yn dweud bod cynnal teithiau cyfnewid o'r fath yn hollbwysig i ddathlu diwylliannau gwahanol ar draws y byd.

"Dwi’n meddwl na’r unig ffordd nawn ni gael gwared o bethau fel hiliaeth ydi bod ni’n gwerthfawrogi ein gilydd a'n mwynhau be sgyna ni gyd i cynnig," meddai. 

"Mae polisïau yn bwysig, ond be sydd wir yn gwneud gwahaniaeth yng nghalonnau pobl ydi’r gwerthfawrogiad a'r mwynhad."

'Braint anhygoel'

Er bod Ms Jones yn edrych ymlaen at gael dysgu am hanes menywod yr Arrernte, mae hi'n edrych ymlaen at gael rhoi blas o Gymru iddyn nhw – ac mae hi eisoes wedi bod allan yn tynnu lluniau o fyd natur, gan gynnwys mwsog, aeron coch a choed gwahanol.

"Dwi'n bwriadu hefyd mynd a llyfrau a dangos clipiau o pobl fel Lily Beau ac Aleighcia Scott fel bod nhw’n gweld bod merched eraill Du a Brown yng Nghymru hefyd yn rhan o’r diwylliant yma," ychwanegodd.

Yn ôl Ms Jones, mae'n "fraint anhygoel" cael y cyfle i roi Cymru ar y map.

"Mae'n fraint anhygoel, nes i 'rioed feddwl fyswn i'n cael y cyfle i neud wbath fel hyn," meddai.

"Ti ddim hyd yn oed yn meddwl breuddwydio am wbath fel hyn, mae'n wbath mae pobl eraill yn cael neud."

Ar ôl dychwelyd adref i Gymru, bydd y criw yn trefnu digwyddiad i rannu straeon o'r profiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.