Dau o Gaerdydd yn gwadu cynllunio ymosodiadau ar gymunedau Moslemaidd ag Iddewig
Mae dau ddyn ifanc o Gaerdydd wedi gwadu cyhuddiadau o gynllunio i gynnal ymosodiadau terfysgol yn erbyn cymunedau Moslemaidd ag Iddewig yn y brifddinas.
Mae Rhys Edwards a Talan Vincent, y ddau'n 18 oed, wedi eu cyhuddo o gynllunio ymosodiadau ar adeiladau crefyddol yng Nghaerdydd, gan gynnwys Mosg a Synagog.
Fe wnaeth y ddau ymddangos yn Llys yr Old Bailey yn Llundain ddydd Gwener, ac fe blediodd y ddau yn ddieuog i gynllunio'r ymosodiadau rhwng 1 Hydref a 16 Tachwedd y llynedd.
Fe gafodd cais am fechnïaeth ei wrthod gan y Barnwr, Mrs Ustus Cheema-Grubb, ac fe gafodd yr achos ei ohirio nes mis Medi ar gyfer gwrandawiad cyn i'r achos gael ei gynnal yn llawn ym mis Chwefror 2027.
