Llid yr ymennydd: Y GIG yn Lloegr wedi aros dau ddiwrnod cyn rhybuddio am yr haint
Fe arhosodd y gwasanaeth iechyd yn Lloegr ddau ddiwrnod cyn rhybuddio bod yna achosion o lid yr ymennydd yng Nghaint.
Mae'r BBC wedi darganfod fod Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU wedi cael gwybod am achos cyntaf yn Ysbyty'r Frenhines Elizabeth y Fam Frenhines yn Margate brynhawn dydd Gwener 13 Mawrth.
Roedd y claf wedi cyrraedd yr ysbyty ddau ddiwrnod ynghynt ond roedd oedi wrth adrodd am yr achos wrth swyddogion iechyd. Mae yna ddyletswydd gyfreithiol i bobl roi gwybod am achosion yn syth.
Mae'n golygu bod oedi wedi bod cyn cysylltu â'r rhai yr oedd y claf wedi bod yn cymysgu â nhw ac o bosib mewn sylweddoli bod yr haint wedi lledaenu.
Ymddiriedolaeth y GIG Ysbytai Dwyrain Caint sydd yn gyfrifol am yr ysbyty ac maent wedi cyfaddef bod cyfle wedi ei golli i roi gwybod i'r Asiantaeth Diogelwch yn gynt.
Mae'r Ymddiriedolaeth wedi dweud wrth y BBC eu bod nhw wedi aros am ddiagnosis swyddogol yn gyntaf trwy roi prawf i'r claf.
Mae Llid yr Ymennydd yn cael ei ddynodi fel afiechyd sydd angen rhoi gwybod yn syth amdano. Does dim rhaid i ysbytai aros am brofion neu ddiagnosis swyddogol.
Mae arbenigwyr wedi beirniadu'r penderfyniad i oedi gan ddweud bod hi'n bosib bod pobl wedi bod o dan risg. Byddai rhybuddion iechyd cynt i'r cyhoedd wedi golygu y byddai unigolion gyda symptomau wedi gallu cael cymorth meddygol yn gynt meddai arbenigwyr.
'Triniaeth ataliol'
Yn ôl yr Athro Paul Hunter, arbenigwr mewn clefydau heintus ym Mhrifysgol East Anglia does dim amser i oedi gyda llid yr ymennydd.
"Nid yn unig ydych chi eisiau canfod y rhai oedd wedi bod mewn cysylltiad agos gyda'r claf i roi triniaeth ataliol iddyn nhw, rydych chi hefyd eisiau gweld os oes yna achosion eraill yn datblygu," meddai wrth y BBC.
Ychwanegodd bod nifer o bobl ifanc wedi datblygu symptomau ond nad oedden nhw yn gwybod bod y clefyd yn lledaenu. Os y bydden nhw wedi gwybod mae'n bosib y bydden nhw wedi mynd i gael triniaeth feddygol yn gynt meddai.
Mae'n bwysig cael triniaeth gyflym meddai er mwyn cynyddu'r siawns o oroesi a hefyd i osgoi anableddau sydd yn newid bywyd person fel anaf i'r ymennydd neu golli braich neu goes.
Mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU wedi dweud bod yna gyfle wedi ei golli i adrodd yr achos yn gynt. Mae'r Asiantaeth hefyd wedi codi amheuaeth am ba mor gyflym y gwnaeth yr ymddiriedolaeth adrodd achosion eraill.
Yn ôl yr Asiantaeth nos Sadwrn 14 Mawrth y cafon nhw wybod am achosion eraill er bod mwy o gleifion wedi cyrraedd yr ysbyty yn Nwyrain Caint gyda symptomau posib o lid yr ymennydd ddydd Gwener 13 Mawrth.
